Dyddanwch yr Aelwyd/Y Fenyw Fwyn

Y Friallen Fathredig Dyddanwch yr Aelwyd

gan Hughes a'i Fab, Wrecsam

Canig i'r Gormeswr

Y FENYW FWYN.

FENYW fwyn, gwrando gwyn
Dyn sy'n curio er dy fwyn;
Mae i mi ddirfawr gri,
Ddydd a nos o d' achos di.
Wylo'r dw'r yn ail i'r don;
O gwel fy mriwiau dan fy mron:
Nid oes arall feddyg imi
Ond tydi, lili lon:
Dy lon bryd, blodai'r byd,
Sydd o hyd i'm pruddhau:
Cofio'th lendid hyfryd di
Wna i mi fawr drymhau,
'Rwyf fel un mewn carchar caeth,
Drwy fy oes yn dyoddef aeth;
Ac oblegyd saethau Ciwpid,
Darfu'r gwrid, gofid gwaeth.

Derbyn di, wych ei bri,
Hyn o anerch genyf fi:
Mae fel sel fy mod, gwel,
Yn dy garu yn ddi gel:
Dengys it' fy mod yn brudd
O dy gariad nos a dydd:
Dwys och'neidion a gwasgfeuon,
Trwm yw son, i mi sydd:
Ac er bod îs y rhôd
Rhai a'u clod fel tydi,
Eto ti yw'r unig ferch

Aeth a'm serch rymus i:
Ac am hyny, 'r deg ei llun,
Dyro'n awr, i druan un
Air o gysur, gwel fy llafur,
Llaesa'm cur, fwynbur fun.

Rheswm sydd, nos a dydd,
Am fy nwyn o'r rhwyd yn rhydd:—
"Caru bun deg ei llun,
'Rwyt yn fwy na Christ ei hun;
Cofia gywir eiriau Duw,
'Rhai sy'n d'weud am bob dyn byw,
Mai fel blodau neu wyrdd—lysiau
Yw eu clau degwch, clyw.
Aros, O! dyro dro
Tua bro mynwent brudd,—
Gweli yno feddau breg
Rhai fu deg yn eu dydd!
Yn ddiameu yma rhydd
Rhywun d'eulun di ryw ddydd:
Er maint arni a ryfeddu,
Cofia di, felly fydd.".

Ond er hyn, gruddiau gwyn,
Hyn o hyd a'm deil yn dyn;
Trechach yw anian fyw
Na dysgeidiaeth o bob rhyw:
Gwared fi o'm c'ledu clau,
Gwrando'm cwynion heb nacäu,
Gwella'm dyfnion faith archollion,
Dan fy mron, feinir fau;

Ond pa fri yw i ti
Fy mod i yma 'n dwyn
Rhyw hiraethog lidiog loes,
Ar hyd f' oes, er dy fwyn?
Tyr'd i wella'm briwiau hyn,—
Oni ddeui, dos a phryn
Arch ac amdo, er fy nghuddio
O dan glo yn mhridd y glyn.

Ynfyd wyf oddef clwyf,
Drwy ryw ffol anianol nwyf;
A byw cy'd yn y byd,
I ryfeddu'th wyneb-pryd.
O! y drych a welaf draw
Ar dy degwch, pan y daw
I gael arno bridd-glai oernych,
Yn y rhych, efo'r rhaw!
Yna'r gwrid oedd mor brid;
Gwywa i gyd dan y gwys;
Cleidir byddar daear den
Dyn dy ben dan ei bwys;
Yna'r gruddiau goleu, gwiw,
Wnaeth fy nhirion fron yn friw,
A ddaw'n delpyn oer, heb ronyn'
O dy lun na dy liw.
—IEUAN GLAN GEIRIONYDD.


Nodiadau

golygu