Dyddanwch yr Aelwyd/Y Friallen Fathredig
← Yr Ynys Wen | Dyddanwch yr Aelwyd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam |
Y Fenyw Fwyn → |
Y FRIALLEN FATHREDIG.
CYFIEITHIAD O GOETHE.
"Briallen welw, dro yn ol,
A unig dyfai ar y ddol,
Nes heibio iddi daeth
Rhyw lodes wridgoch, ysgafn droed,
Un landeg iawn yn mlodau oed,
A'i chân yn ffrydio'n ffraeth.
'Na bawn,' y blodyn gŵylaidd wawr
A waeddai, na bawn i un awr
Yn rhosyn coch, fel cawn
Orphwyso yr orig hòno àr fron
Y wyryf deg, nes marw'n llon
O lesmar yno wnawn.'
Y lodes, yn ddifeddwl, ddaeth,
A sathru ar y blodyn wnaeth;
A chrymodd yntau ei ben;
A chyda'i gwymp uchenaid rhodd,-
'Er marw, marwyf wrth fy modd,
Dàn droed yr eneth wèn!'
—DANIEL SILVAN EVANS.