Dyddanwch yr Aelwyd/Iaith a Thelyn Cymru

Ochenaid yr Hen Wmffra ar ol Mabolaeth Dyddanwch yr Aelwyd

gan Hughes a'i Fab, Wrecsam

Merch Ieuangc yn y Darfodedigaeth

IAITH A THELYN CYMRU.

Pan oedd diffyg tân ar Gymro
Meddai iaith allasai'i dwymno;
'nawr rhwng tânau a danteithion,
Cyll ei iaith, a chyll ei galon.

Rhowch i mi'n lle gwledd a gwinoedd,
Serch a doniau'r hen amseroedd;
Yna dysgaf, yna canaf
Fel y goreu feirdd a garaf.

Trech na chyfraith, trech nac arfau,
Trech na phob peth can a thanau,
Dyweded ef amheuo hyny,
P'odd mae'n fyw hen Delyn Cymru?

Gan ei byw 'nol syrthio'n cestyll,
Gan i ing gryfhau ei hesgyll,
Tra bo natur, tra bo elfen,
Byw bo'r delyn, byw bo'r awen.

Boed i bob peth gael ei amser,
Ac 'nol hirwaith na boed ofer
I bob Cymro ganu ei deimlad,
Gyda thonau pêr ei Henwlad.

Tybia rhai mai da f'ai claddu
Iaith, a chan, a Thelyn Cymru;
Cyn y dygwydd hyn i Walia,
Gwedi'n nghladdu b'wyf y'nghynta.


Nodiadau

golygu