Dyddanwch yr Aelwyd/Merch Ieuangc yn y Darfodedigaeth
← Iaith a Thelyn Cymru | Dyddanwch yr Aelwyd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam |
Gair Olaf fy Mam → |
MERCH IEUANC MEWN DARFODEDIGAETH.
Wrth edrych ar ei delw hardd,
Ei llygaid, ac ei gwên,
Meddyliwn am flodeuyn gardd,
Cyn henaint oedd yn hên:
Ni welodd hi flynyddoedd gwae,
Er hyny gwywa'i gwedd;
Mal y blodeuyn plygu mae
Cyn henaint tua'r bedd.
Ei llygaid ceisiant fod yn fyw,
Ond angeu ynddynt sydd;
A gwrid ei grudd anwadal yw,
Yn symud nos a dydd.
Ei thirion wedd—angeles wen!
A ddwg i gôf y Bardd,
Am rosyn gwyw yn plygu'i ben
Cyn llechu yn llwch yr ardd.
Mor hoew flwyddau bach yn ol,
Mor ysgafn ar ei throed;
Ar ael y bryn, ar waelod dôl,
Yn hoywaf un o'i hoed.
Ond heddyw prin y symud gam
Gan wayw megis cledd;
Ei dewis waith yn mraich ei mam,
Yw dangos man—ei bedd.
—TEGID.