Dyddanwch yr Aelwyd/Mi'th welais yn Wylo

Cân Hen Wr y Cwm Dyddanwch yr Aelwyd

gan Hughes a'i Fab, Wrecsam

Y Bwthyn Mynyddig

MI'TH WELAIS YN WYLO.

Mi'th welais yn wylo; a'r deigryn tryloew
Yn araf ymdreiglaw o'th wâr lygad hoew;
A thybied yr oeddwn ei fod yn ymddangos
Fel lili y bore yn dafnu mân wlithnos.

Mi'th welais yn gwenu; a'r gemau teleidion
A welid yn gwelwi o flaen dy belydron:
Mi'th glywais yn siarad; ac àr fy nghlust disgyn
A wnelai dy eiriau fel gwlith àr y rhosyn.

Mi brofais dy gusan; a chynted a'i profais,
Holl fwyniant y ddaear àr unwaith anghofiais:
Mi'th welais wrth allor y llan' ac yn ffyddlawn
Dy law yn rhoi imi;—a'm gwynfyd oedd gyflawn.

D. S. EVANS.


Nodiadau

golygu