Dyddanwch yr Aelwyd/Y Bwthyn Mynyddig
← Mi'th welais yn Wylo | Dyddanwch yr Aelwyd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam |
Mam, beth yw hwna? → |
Y BWTHYN MYNYDDIG.
Mynyddau bán ysgythrog sydd
Yn gaerog dorch o gylch fy llanerch,
Lle mae murmurog ffrydlif rydd
Ac adsain megis yn ymannerch.
Yr harddfrith goron uwch y pen,
Yw eira, rhew, a thrwyth cymmylau;
A bolwyn niwl, yn hwyrol len,
Yw gwlanog addurn eu hymylau.
Pan guddia nos y faenol werdd,
A theg lusernau'r nef yn wychion,
Gordroellog gurwynt chwyrn wna gerdd
Yn nghrombil holltau'r creigiau crychion.
Tabwrdd ystorm yw muriau'r ty,
Tra duon aeliau'r hwyr yn cuchio;
Chwim folltau mellt a chenllysg lu,
O'r uchelderau sy'n ymluchio.
Ymrwyga'r nen, ymsigla'r llawr,
A'r lloer mewn caddug yn ymdduo;
Ymhyrdda crôch daranau'n fawr,
A thwrf y corwynt yn ymruo.
Er hyn wrth dân o fawn heb sèn,
Y tylwyth sydd yn ymddiddanu;
Fy mam a'i throell,—gwna'm tad lwy bren,
Tra'm chwaer yn gwau a minau'n canu.
O! dyma grwydryn ar ei daith,
Ac angen arno ei achlesu;
Rhoi iddo fwyd sy hyfryd waith,
Yn nghyd a gwely i'w gynhesu.
A chyda'r wawr daw'r heulwen iach,
A dorau'r dwyrain yn agori:
Caf arwain fy niadell fach
Gerllaw'r grisialaidd ddwr i bori.
Y rheiadr ar ei gwymp a chwardd,
A sibrwd gân wrth ymddylifo;
A natur yn ei lifrai hardd,
Arddengys dlysau uwch eu rhifo.
I blentyn gloddest, swrth a gwan,
Y drem fawreddog sy' ry arw;
Ond rhwng y creigiau,—dyna'r fan,
Y carai Cymro fyw a marw.
ROBIN DDU.