Dywedwyd ganwaith na chawn fyw
← Trwy ffydd eheda gweddi'r gwael | Dywedwyd ganwaith na chawn fyw gan Peter Jones (Pedr Fardd) |
Mae addewidion melys wledd → |
469[1] Yr Afael Sicraf Fry.
M. C.
1 DYWEDWYD ganwaith na chawn fyw
Gan agnhrediniaeth hy;
Ond ymddiriedaf yn fy Nuw:
Mae'r afael sicraf fry.
2 Cyfamod Duw a'i arfaeth gref
Yn gadarn sydd o'm tu;
Anghyfnewidiol ydyw Ef:
Mae'r afael sicraf fry.
3 Er beiau mawrion, rif y dail,
A grym euogrwydd du,
Iawn ac eiriolaeth Crist yw'r sail :
Mae'r afael sicraf fry.
4 Rhagluniaeth fawr y nef o'm plaid,
Ei holl olwynion try;
Agorai'r môr, pe byddai raid:
Mae'r afael sicraf fry.
5 Caf floeddio concwest yn y man,
Pob gelyn draw a ffy;
Cans er nad ydwyf fi ond gwan,
Mae'r afael sicraf fry.
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 469, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930