Mae addewidion melys wledd
← Dywedwyd ganwaith na chawn fyw | Mae addewidion melys wledd gan T J Pritchard (Glandyfi) |
Mi glywais lais yr Iesu'n dweud → |
470[1] Disgwyl wrth yr Arglwydd.
M. C.
1 MAE addewidion melys wledd,
Yn gyflawn ac yn rhad,
Yn dy gyfamod pur o hedd,
Tragwyddol ei barhad.
2 'R wyf innau yn dymuno dod
I'r wledd ddanteithiol fras;
Ac felly mi gaf seinio clod
Am ryfedd rym dy ras.
3 O! rhwyma fi wrth byst dy byrth,
I aros tra fwyf byw,
I edrych ar dy wedd a'th wyrth,
A'th foli Di, fy Nuw.
4 Tydi fo 'nghymorth parod iawn,
I'm cynnal ar fy nhaith;
A Thi dy Hun fo 'nhrysor llawn
I dragwyddoldeb maith.
—Thomas John Pritchard (Glandyfi)
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 470, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930