Enaid cu! mae dyfroedd oerion
← Mae 'nghyfeillion adre'n myned | Enaid cu! mae dyfroedd oerion gan James Edmeston wedi'i gyfieithu gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) |
Rwy'n dy garu er nas gwelais → |
677[1] Croesi Iorddonen.
87. 87.
1 ENAID cu! mae dyfroedd oerion
Yr Iorddonen ddu gerllaw;
Eto, gwel! mae'r ddinas sanctaidd
Ar y lan yr ochr draw:
2 Yno mae dy hen gyfeillion
Wedi dianc uwch bob clwy',
Yn dy aros, er cael cyfran
O'u dedwyddwch hyfryd hwy.
3 Paid ag ofni, berr yw'r fordaith,
Ac mae'r Archoffeiriad cu
Yn dy aros yn y dyfroedd
Er dy ddwyn i'r ddinas fry;
4 Clyw seraffaidd seiniau'n 'hedfan,
Draw o frodir Seion fryn;
Gwel ei heuraidd byrth yn agor
Drwy y niwl sy'n toi y glyn.
5 Ffarwel fyd, a ffarwel deithio
Yn yr anial dyrus mwy;
Ffarwel gnawd, a ffarwel lygredd,
Ffarwel boen, a phob rhyw glwy;
6 Mae'r tywyllwch yn gwasgaru,
A'r goleuni yn cryfhau;
'N awr 'rwy'n gweld y pur drigfannau,
'Hed, fy enaid, i'w mwynhau.
James Edmeston
cyf: Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 677, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930