Mae 'nghyfeillion adre'n myned
← Rwy'n caru enw'r hyfryd wlad | Mae 'nghyfeillion adre'n myned gan Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd) |
Enaid cu! mae dyfroedd oerion → |
676[1] Galar ar ôl Cyfeillion.
87. 87. D.
1 MAE 'nghyfeillion adre'n myned
Draw o'm blaen o un i un,
Gan fy ngadael yn amddifad,
Fel pererin wrtho'i hun.
2 Wedi bod yn hir gyd-deithio
Yn yr anial dyrys maith,
Gormod iddynt oedd fy ngado
Bron ar derfyn eitha'r daith.
3 Wedi dianc uwch gelynion,
Croesau, a gofidiau fyrdd,
Maent hwy'n awr yn gwisgo'r goron,
Ac yn cario'r palmwydd gwyrdd.
4 Byddaf yn dychmygu, weithiau,
Fry eu gweld yn Salem lân,
Ac y clywaf, ar rai prydiau,
Atsain odlau pêr eu cân.
5 Ond mae'r amser bron a dyfod
Y caf uno gyda hwy,
Yn un peraidd gôr diddarfod,
Uwchlaw ofn ymadael mwy.
Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 676, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930