Enwogion Ceredigion/David Davies (1755—1838)
← Daniel Davies | Enwogion Ceredigion Bywgraffiadau gan Benjamin Williams Bywgraffiadau |
David Davies (Glan Cunllo) → |
DAVIES, DAVID, gweinidog yr Annibynwyr yn Sardis, ger Llangadog, a anwyd ym Mhant Bach, plwyf Llangynllo, yn y flwyddyn 1775. Cafodd ei dderbyn yn aelod yn y Drefach (gwedi hyny Saron). Daeth yn fuan i bregethu, gan gael cymmeradwyaeth fawr. Cafodd ei urddo yn Sardis a Myddfai. Bu yn dra llwyddiannus. Bu farw Mawrth 2, 1838, yn 63 oed. Cyfrifid ef fel ei gefnder, D. Davies, Abertawy, yn "Gloch Aur y Cymry."