Enwogion Ceredigion/David Davies (Glan Cunllo)

David Davies (1755—1838) Enwogion Ceredigion
Bywgraffiadau
gan Benjamin Williams

Bywgraffiadau
David Davies (1811—1851)

DAVIES, DAVID (Glan Cunllo), a anwyd ym mhlwyf Llangynllo. Bu yn yr ysgol ym Mwlch y Groes, ysgoldy yn ymyl capel yr Annibynwyr yn yr ardal. Rhwng deg a deuddeg oed efe a gafodd gystudd trwm, ac arosodd ol y dolur yn ei glun, fel yr oedd yn gloff trwy ei oes, ac yn analluog i gerdded heb ffyn baglau. Yr oedd yn meddu talentau cryfion ac egni anwrthwynebol. Ymroddodd yn hynod i ddyfod ym mlaen. Bu yn cadw ysgol ym Mhencader, Penuel, Caio, Llansawel, a Llangadog, a rhoddid iddo lawer o glod fel ysgolfeistr. Talodd sylw i lenyddiaeth, barddoniaeth, a rhyddiaith gyffredinol. Daeth yn fardd rhagorol, ac ennillodd lawer iawn o wobrau. Yr oedd ei egni yn y ffordd hon tu hwnt i neb a welsom erioed. Y wobr ddiweddaf a ennillodd oedd am "Draethawd Bywgraffyddol a Beirniadol ar Iolo Morganwg," yn Eisteddfod Caerfyrddin, yn 1867. Gwelsom ef yn yr eisteddfod, ac edrychai yn wael iawn: dywedai ei fod wedi ffarwelio â bywyd — ei fod yn anobeithiol o wella. Gorfu iddo ddychwelyd adref cyn cael derbyn y wobr. Dywedid ei fod wedi ysgrifenu ar rai o'r prif destynau heb law hyny, megys "Owain Glyndwr" &c., ac ei fod yn sefyll yn uchel iawn yn y gystadleuaeth. Ar ol dihoeni yn hir, dan bwys ergydion dyfal y darfodedigaeth, bu farw Tachwedd 17, 1867, yn 30 mlwydd oed, gan adael gwraig a phlant i alaru ar ei ol. Yr oedd yn ei wynebpryd yn rhyfeddol o siriol, a dau lygad glas, bwmpi ar dor y croen, yn edrych yn llawn sirioldeb ac yni meddwl. Pe buasai y gwr talentog hwn yn cael oes o drigain a deg, nid oes modd dirnad faint fuasai wedi gyfansoddi. Gobeithio y dygir allan gyfrol o'i ganiadau. Gorwedda ym mynwent Llangadog, yn Ystrad Tywi. Heddwch i'w lwch.