Enwogion Ceredigion/Ednowain ab Gweithfoed
← Deio ab Ieuan Ddu | Enwogion Ceredigion Bywgraffiadau gan Benjamin Williams Bywgraffiadau |
David Edwards → |
EDNOWAIN AB GWEITHFOED ydoedd wythfed mab Gweithfoed Fawr, Arglwydd Ceredigion. Yr oedd yn Abad lleyg yn Llanbadarn Fawr yn 1188. Y mae Giraldus Cambrensis yn beio yn llym ar yr arferiad ag oedd yng Nghymru a'r Iwerddon, sef rhoddi yr awdurdod eglwysig yn nwylaw y dynion mwyaf dylanwadol mewn cyfoeth yn y plwyfi, a'r rhai hyny yn defnyddio y fantais o roddi y swyddi cyssegredig i'w tylwyth, gan ergydio ar ben Ednowain.