Enwogion Ceredigion/Deio ab Ieuan Ddu

Timothy Davis, Evesham Enwogion Ceredigion
Bywgraffiadau
gan Benjamin Williams

Bywgraffiadau
Ednowain ab Gweithfoed

DEIO AB IEUAN DDU ydoedd enedigol o blwyf Llanfihangel y Creuddyn. Yr oedd yn ei flodau yn y rhan olaf o'r pymthegfed canrif. Y mae yn ein meddiant hen gywydd adysgrifiwyd o'r Gronfa Brydeinig er ys tua thair blynedd yn ol, yr hon sydd yn rhoddi hanes bywyd y bardd yn well na dim ag sydd mewn cof a chadw.

"CYWYDD Y CLERA YNG NGHEREDIGION"

" Y SIR oll a fesuraf
O Deifi i Ddyfi 'dd af ;
O Dywyn ac o'r glyn gloew
Y treiglaf i'm gwlad tragloew
Profi achoedd prif uchel
Ac ar dwf y gwŷr y dêl;
Dechreu o ddeheu ydd wyf
Y Sirwen gwlad ni sorwyf :
Hil Rhys melus y molaf,
Tewdwr o Ddinefwr naf :
Galw llwyth Einion Gwilym,
Y sy raid yn y sir ym'
Oddi yno mae f ' eiddunoed,
Dros y Cwm i dir Is Coed;
Ym mhlith llin Rhys chwith ni chaid
Ond aur gan benaduriaid;
Clawr rhif y gwŷr digrifion,
Coed y maes yw cyd a Mon;
Agos yw Caerwedros ym',
Dros y ddeheuros hoewrym.
Dyfod at waith Llwyn Dafydd
Da fan gan bob dyn a fydd ;
Doniog i ni fod myn Deinioel
Yn fardd i hil Llywelyn Foel!
Trown yno trwy Wynionydd,
Clera difeita da fydd;
Llwyth Dafydd Gwynionydd gân,
Hael faich o Hywel Fychan r
Pob rhyw [wr] pybyr eiriau,
O Ddinawal a dâl dau.
Oddi yno deffro'r dyffryn
Rhwyfo'r elod rhof ar y glyn,
Pob man o'r glyn a blanwyd,
Pob ffin a llin Ieuan Llwyd;
Dyfod at wyrion Dafydd
Tros y rhos, wttreswr rhydd;
Dilyn y man y delwyf,
Pobl Weithfoed erioed yr wyf;
Mawr a wnaf, myn Mair a Non!
O Benardd a Mabwynion,
I riniog oludog wledd,
Mi af yno, mae f ' annedd :
Hil y Caplan oedd lanaf,
Gwir iawn, ei garu a wnaf

Troi f' wyneb traw i fynydd,
Drwy y sir o dre' y sydd;
Amlwg yw hil Gadwgon,
O waelod hardd y wlad hon.
Goreu ceraint gwŷr carawg
A Uyn fydd rhyngddyn' y rhawg.
Digrifion myn Duw grofwy,
Doethion a haelion ŷn' hwy,
Câr iddynt wyf o'r Creuddyn,
Llyna haid o'i llin i hyn;
Llinach Llywelyn Ychan
Y maent hwy oll, myn y tân.
Enwau y cwmmwd einym'
Perfedd hyd Wynedd, da ym':
Llawdden oedd y gwarden gynt
Hil Llawdden hael oll oeddynt
Achau y cwmmwd uchod,
Geneu'r Glyn lle gana'r glod;
Moli hil Gynfyn Moelawr,
Ydd wyf fi, ac Adda Fawr.
Llyna hwy wrth y llinyn,
Achau'r holl gymmydau hyn :
Ufudd a dedwydd da iawn,
A mawr agos môr eigiawn;
Troi'n eu mysg trwy ddysg ydwyf,
Tros y wlad trasol ydwyf.
Ni chawn, myn Duw a Chynin!
Dy bach o'r Deheu heb win.
Llawen fyddai gwên pob gwr
Wrth Ddeio gymmhorthäwr;
Rhai dibwyll aur a dybia
Na chenid dim ond chwant da,
Cariad y ddeheu-wlad hon,
Rhai a'i haeddodd â rhoddion.
Lle mager yr aderyn,
Yno trig, natur yw hyn;
Minnau o'r Deau nid af;
Ar eu hyder y rhodiaf.
"DEIO AB IEUAN DDU."

Ni a welwn wrth y cywydd uchod, mai wrth glera o fan i fan ar hyd y palasau a thai cyfoethogion y wlad yr oedd y bardd yn byw. Dyna oedd dull llawer iawn o'r beirdd yn y cynoesoedd. Yr oedd Lewis Glyn Cothi, yr hwn oedd gydoesydd â'r bardd, yn clera yn barhäus o fan i fan, gan grwydro o'r Deheudir i'r Gogledd, gan gael croesaw mawr gan y boneddigion. Yr oedd y beirdd wrth glera yn cyfansoddi caniadau o glod i'r boneddigion lle yr oeddynt yn ymweled, gan gyfrif achau a gorchestion eu hynafiaid. Y mae y bardd hwn, yn y cywydd a ddyfynwyd, yn olrhain llawer iawn o achau y boneddigion. Y mae yn dechreu yn y Tywyn, ym mhlwyf y Ferwig, gan goffa Einion Gwilym, Arglwydd y Tywyn, sylfaenydd y palas hwnw; ac yr oedd yn nai, fab cyfnither, i'r bardd Dafydd ab Gwilym. Y mae Cadifor ab Dinawol, sylfeenydd Castell Hywel, yn cael ei goffa yma. Y mae hefyd Gweithfoed Fawr yn cael ei goffa, o'r hwn y mae teulu uchel y Gogerddan yn hanu. Y mae teuluoedd Coedmor a Gilfachwen Uchaf yn hanu o Gadwgan ab Bleddyn. Wrth y Llawdden yn y cywydd, y mae i ni ddeall, Llawdden, Arglwydd Uwch Aeron, yr hwn oedd yn ei flodau tuag amser Llywelyn ab Gruffydd. Ond yr anffawd waethaf wrth glera a gafodd y bardd hwn, oedd ei siomedigaeth ar ei ymweliad ag Ynys Enlli. Yr oedd wedi clywed mai gwr hael iawn ar ei fwyd a'i ddiod oedd Madawg, Abad Enlli, ac felly cyfansoddodd gân o glod iddo, gan ddysgwyl cael derbyniad caredig yn llys yr Abad yn Enlli; ond yn lle hyny, bara briglwyd, caws cnap, ac enwyn sur a gafodd y bardd! Yn chwerwder y siom, canodd gerdd oganllyd i'r abad, yn cyfodli â chaws drwyddi. Rhydd Meyrick, yn ei hanes o Geredigion, ddwy awdl o'i eiddo, sef un i Dafydd Tomos o Is Aeron, i ddiolch am ba un; ac un arall i Feredydd ab Llywelyn o Uch Aeron.

Nodiadau golygu