Enwogion Ceredigion/Timothy Davis, Evesham
← John Davis, Collumpton | Enwogion Ceredigion Bywgraffiadau gan Benjamin Williams Bywgraffiadau |
Deio ab Ieuan Ddu → |
DAVIS, TIMOTHY, o Evesham, ydoedd y trydydd plentyn ac ail fab i'r diweddar Barch. D. Davis, Castell Hywel. Ganwyd ef yn y Plasbach, Ciliau Aeron, Tachwedd 20fed, 1779. Pan o ddeutu pedair blwydd oed, symmudodd y teulu i Gastell Hywel Bu yn efrydydd y clasuron o dan ofal ei dad hyd nes yr oedd yn ddwy ar bymtheg oed; pan y rhoddodd hwynt i fyny am tua dwy flynedd, er mwyn gofalu am y tyddyn oedd gan ei dad. Yr oedd ei syched gymmaint am wybodaeth, fel yr oedd yn myfyrio yn ddiwyd ar ol i lafur a lludded y dydd fyned drosodd, gan gadw ym mlaen gyda'r rhai hyny ag oeddynt yn myfyrio yn ystod y dydd. Wedi ymroi yn y modd hyn i gynnyddu mewn gwybodaeth, cododd awydd arno am fyned i'r weinidogaeth. Priodolai efe yr awydd a gododd ynddo i bregeth Dafydd, ei frawd henaf, un Sul yn Llwyn Rhyd Owain. Yr oedd ei awydd gymmaint am y weinidogaeth, fel y dechreuodd bregethu ar y 12fed o Fai, 1799. Derbynwyd ef i'r athrofa ar y 3ydd o Ionawr, 1798. Ar ddiwedd ei yrfa golegol cafodd ei urddo i gydweinidogaethu â'i dad yn Llwyn Rhyd Owain a manau ereill. Ymadawodd â gwlad ei dadau, a sefydlodd yn y Great Meeting, Coventry, Medi 9, 1810. Cafodd yn y lle hwn gymdeithas amryw o enwogion Lloegr. Priododd Mai 19, 1811, â boneddiges ieuanc o Evesham. Cyn, ac wedi ymadael â Chymru, rhoddodd Mr. Davis ran fawr o'i amser i gyfieithu Esboniad' Dr. Coke i'r Gymraeg. Yn 1818 collodd un o'i bedwar plentyn a aned iddo yn Coventry. Symmudodd i Evesham ym Mehefin, 1818, lle y treuliodd bymtheg ar hugain o flynyddau yn y weinidogaeth. O blegid henaint a llesgedd, rhoddodd ei ofal gweinidogaethol i fyny Gorphenaf 17, 1853. Bu farw Tach. 28fed, 1860, yn 80 mlwydd oed. Arminiaeth oedd y wlad yn gyfrif ydoedd credo yr enwog Ddavis o Gastell Hywel; ond y mae yn debyg ei fod yn gogwyddo at Ariaeth : ond symmudodd ei blant yn nes ym mlaen i dir Ariaeth gyhoeddus, ac yn y diwedd y cofleidiasant yr hyn a elwir Undodiaeth hollol. Heb law cyfieithu Esboniad Dr. Coke, cyfansoddodd a chyhoeddodd Mr. Davis y gweithiau canlynol: — Cyfarwyddiadau i chwilio yr Ygrythyr Sanctaidd, mewn pregeth a draddododd yng Ngallt y Placca, mewn cyfarfod o weinidogion, Mai 6ed, 1832. Peryglon a Dyletswyddau Bywyd; pregeth yn angladd Ben. Jones, Coedlanau Fach, Mehefin 26fed, 1835, &c. Ac yn Seisoneg — Serious Admontion to the Young; on the great Duty of Remembering their Creator: in a discourse delivered at the Presbyterian Chapel, Oat-street, Evesham, on the 5th of January, 1834. A Sermon on the Season of Spring, delivered in the same, on Sunday, 18th of May, 1834. On Public Worship, and the Unity of God; two sermons preached at the chapel, in Manchester-place, Cheltenham, formerly belonging to the Society of Friends on occasion of the said chapel being opened for the worship of one God the Father, through Jesus Christ.