Er Mwyn Cymru/Bychander
← I'r Mynyddoedd | Er Mwyn Cymru gan Owen Morgan Edwards |
Ffyrdd Hyfrydwch → |
BYCHANDER
GOFYNNIR yn aml a yw addysg Cymru'n effeithiol. Llawer a soniwyd am gyfundrefn lawn o addysg i'r genedl, am ysgol y gallai'r athrylith dlotaf ei dringo. Llawer darlun gwych a dynwyd o'r peth fyddai Cymry pan wedi cael addysg, y gobeithiol yn dod yn sylwedd, yr amcan yn gyrhaeddadwy. Ac eto pan edrych Cymro o'i gwmpas, ni wel gewri ei obeithion, a themtir llawer un i ddweyd yn ei siomiant fod hen dymor yr anwybodaeth wedi codi gwell arweinwyr na chyfnod yr addysg.
O'm rhan fy hun, nid yw'm gobeithion i wedi eu siomi. Yn hytrach gwelaf fod llawer o'm hofnau yn fwy di-sail nag y tybiwn eu bod. Nid wyf wedi disgwyl gweld cewri mor gynnar a hyn; ond gwn eu bod yn dod. Y peth a fawr ofnais oedd bychander cenedlaethol; a chorachod. Nid wyf yn disgwyl y cawr ar hyn o bryd; a phe deuai, nid wyf yn siwr yr adnabem ef; yr wyf yn weddol sicr na chai ei le gennym. Fy ofn i yw gweld y corach. Wedi hir wewyr esgor mynyddoedd addysg Cymru, beth pe'r esgorent ar lygoden fach ddirmygus? A beth pe'r addolai'r genedl y corach, oherwydd fod ei hymddiried yn yr addysg a'i cynhyrchodd?
Y mae tri gallu pwysig yng Nghymru a'u tuedd at greu bychander cenedlaethol a chynhyrchu corachod hunan edmygol.
i.—Un ydyw'r syniad mai y tu allan i Gymru y mae pob cyfoeth gwerth ei gael. Bu Cymru heb wybodaeth am ddiwylliant Ffrainc a gwyddoniaeth yr Almaen. Wel hai ati, ynte, ymgoller yn llenyddiaeth y cenhedloedd hyn, ac anghofier fod gan Gymru hanes na llenyddiaeth, darganfyddwr na gwyddonydd, cân nae alaw. Cynhwysa llyfrau diweddar ar addysg gwynfan geneth athrylithgar, rhan nodweddiadol o gynnyrch ysgolion Cymru, mai yn Ffrainc y darganfyddodd llenyddiaeth ei gwlad ei hun. Ac adleisir ei chŵyn gan galonnau tyrfaoedd o fyfyrwyr Cymreig, y deffrowyd eu heneidiau i weled golud eu gwlad eu hunain mewn prifysgolion pell. Y mae elfennau bychander,—hunanoldeb anwybodaeth, diystyrwch o'r hyn nas gwyddir, eiddigedd gondemniol o wybodaeth nas meddir, a nodweddion nad oes gan yr iaith Gymraeg enw arnynt, yn llechu yn berigl cudd yng nghyfundrefn addysg Cymru. Cymerer gŵr o Gymro na fedr Gymraeg, wedi esgeuluso neu wrthod pob cyfle i'w dysgu, ac yn bychanu neu ddirmygu y llenyddiaeth na ŵyr ddim am dani,—gellir o'r gŵr hwnnw gor mor fychan fel yr heriwn holl wledydd Ewrop i ddangos ei salach a'i lai. Ac y mae yn ein mysg.
ii.—Gallu perigl arall yng nghudd yn addysg Cymru yw i ŵr fedru credu ei fod wedi dysgu popeth. Y mae'r perigl hwn yn gryf yng Nghymru oherwydd ein ffydd iach draddodiadol yn nerth gwybodau, yng ngrym addysg. Ac yn awr, yn y gyfundrefn newydd, cawn dystysgrif ysgol a gradd prifysgol fel arwydd y nerth a'r grym; a rhyfedd y bychander fedr ambell ŵn guddio. Y mae ffynhonnell y perigl yn amlwg. Yr arholiad yw. Gorfodir yr efrydydd, mewn ysgol a choleg, i gasglu gwybodaeth mewn pynciau erbyn adeg neilltuol, yna arholir ef, a chyhoeddir ei dynged. Y perigl mawr yw i'r efrydydd, a'r cyhoedd, feddwl ei fod ar ben ei daith yn y pynciau hyn, na raid iddo eu hefrydu mwy, ac y gall fyw ar ei radd. Y gwir ydyw, os cymer dyn radd a bod am bymtheng mlynedd heb efrydu mwy, y mae'n anheilwng o'i radd, ac yn ddyn annysgedig. Os hyfforddir athraw mewn coleg, ac yntau'n defnyddio dulliau'r coleg am bymtheng mlynedd heb newid, buasai'n well iddo pe heb ei hyfforddi o gwbl. Y mae dyn sy'n tybio na ŵyr ddim, er yn anwybodus, yn well athraw ac yn well dyn na gŵr tystysgrif a gradd sy'n tybio ei fod yn gwybod popeth. Dylai cyfundrefn addysg berffaith anfon i'r byd rai'n teimlo eu hunain ar gwr maes gwybodaeth a meysydd eang toreithiog o'u blaenau. Ond, os anfonant rai wedi gorffen efrydu eu pynciau, llanwant y wlad a chorachod.
iii.—Trydedd meithrinfa corach yw aros yng Nghymru pan mae'n bosibl iddo grwydro i brifysgolion eraill.. Tybiai rhai y dylai Cymro ymgadw rhag mynd i brifysgolion eraill o barch i'w brifysgol ei hun. Cyngor annoeth yw hwnnw. Y mae rhywbeth ymhob Prifysgol gwerth ei ddysgu. Y mae agoriad llygaid a deffroad meddwl i Gymro ymhob man. Cafodd cenedlaethau eu dysg yn Edinburgh, Glasgow roddodd ddeffroad i lu yn ddiweddar. Crwydrodd eraill i hen brifysgolion yr Almaen neu'r Eidal, ac eraill i brifysgolion newydd gwych yr Amerig. Ond, o'r prifysgolion i gyd, Paris neu Rydychen ddylai fod yn gyrchle i wr wedi graddio ym Mhrifysgol Cymru. Gobeithio y bydd llawer efrydydd o Gymro yn dod i ffafr prifysgolion dieithr eto, fel Gerallt Gymro gynt. A delent yn ol wedi eangu eu cydymdeimlad. Cymry'r gorwel eang sydd i godi eu gwlad.
Y mae'n debig mai dyna fel y mae ymhob oes,— y cawr yn niwl y dyfodol neu'r gorffennol, a'r corach yma gyda ni. Cofiwch fel y breuddwydiodd Rhonabwy, ar groen y dyniawed melyn yn yr hen neuadd burddu dal union, ei fod of a Chynwrig Frychgoch, gŵr o Fawddwy, a Chadwgan Fras, gŵr o Foelfre yng Nghynllaith, yn dilyn Iddawc Cordd Prydein ar ol byddin Arthur Fawr. "Padu, Iddawc," ebe Arthur, y cefaist y dynion bychain hynny?" "Mi a'u cefais, arglwydd, uchod ar y ffordd." A glâs wenodd Arthur. "Arglwydd," eb Iddawc, "beth y chwerddi di?" "Iddawc,' eb yr Arthur, "nid chwerthin a wnaf, namyn truaned gennyf fod dynion cyn fawed a hyn yn gwarchadw yr ynys hon, gwedi gwŷr cystal ag a'i gwarchetwis gynt."