Er Mwyn Cymru/Ffyrdd Hyfrydwch

Bychander Er Mwyn Cymru

gan Owen Morgan Edwards

Y Plant a'r Eisteddfod

FFYRDD HYFRYDWCH

ELENI eto bum yn edrych ymlaen yn hiraethlawn at ddyddiau'r mafon duon. Ac o'r diwedd, ar ddiflaniad haf glawog, daeth diwrnod mwyn a heulog. Troais innau'm wyneb i'r mynyddoedd, a chyrhaeddais y fan y cefais y mafon duon y llynedd, lle murmur ffrydlif a mynydd yn hapus, a lle daw awelon pur a iechyd ar eu hedyn.

Cefais fy hun wrth fur adfeiliedig, a'r mieri yn plygu drosto, ac yn cynnyg imi'r mafon yn nuwch gloywddwfn eu haeddfedrwydd. Prin na thybiwn eu bod yn fy adnabod, ac yn gwenu arnaf dan dywyniad yr heulwen, ac yn dweyd nad oedd neb yn rhoi pris ar eu melyster chwerwaidd ond myfi. Sisialai'r afonig gerllaw, gan fy atgofio ei bod hithau yno, a chofiwn fod mafon aeddfed yn crogi uwchben ei dŵr, gan ddawnsio uwchben ei chrychddwfn, a gwenu'n dawel lle gwelent eu llun yn ei llynnoedd clir a thawel. Ond byr fu munudau fy hyfrydwch. Daeth amaethwr ataf o'r cae llafur gerllaw, a dechreuodd areithio. Yr oeddwn wedi gwneud dau gamwri. Yr oeddwn wedi trespasu ar ei dir ef. Pe gwnai ef yr un peth ar dir rhywun arall, i'r carchar y cai ef fynd. A gwaeth na hynny, nid oeddwn wedi gofyn ei ganiatad ef i hel mafon duon. Atebais yn addfwyn na charcherid ef tan wnai ryw ddrwg; ac am ofyn ei ganiatad, na wyddwn i o bobl y ddaear pwy oedd, nac i bwy yr oedd y caeau'n perthyn. I dorri stori aniddorol yn fyr, i'r ffordd y tybiais i y dylwn fynd. Gadewais y mafon duon, i ddisgyn yn ddiddefnydd, mae'n ddiameu, i'r llawr; gwrthodais wahoddiad y ffrydlif, oedd megis yn codi dwylo gwynion arnaf o draw; ac yn hurtyn distaw, a'i falchter wedi ei dynnu i lawr, a'i ysbryd wedi ei glwyfo, cefais fy hun yn sefyll yn llwch y ffordd, yn edrych dros y clawdd bylchog ar y ffrwythau gwylltion gwaharddedig y bum yn meddwl am danynt ym misoedd hir y gaeaf. A daeth dau beth i fy meddwl.

Y mae'm cydymdeimlad i gyd gyda'r amaethwr, yn enwedig yr amaethwr bychan. Un felly oedd fy nhad. Gwn am ei serch angerddol at ei gartref, gwn am ei fywyd ymdrechgar a phur. Gwn mai'r cartrefi mynyddig hyn yw ffynhonellau goreu ein bywyd cenedlaethol. Gallwn feddwl pan yn sefyll ar y ffordd, fy mod wedi gwneud cymaint a neb o'm gallu a'm moddion i gadw amaethwyr Cymru yn ddiogel yn eu hoff gartrefi. Ond,— beth os try'r amaethwr yn orthrymwr? Beth os gwrthyd i eraill,—y llafurwr di-gyfoeth, y pererin lluddedig, y trefwr gwelw, ychydig o ffrwythau gwylltion y cloddiau, a mwynder llawen murmur yr afonig, a iechyd awel y mynydd? Os felly, pa well yw ef nag ystiward tordyn neu gipar hirgoes? Pe daethai'r meistr tir neu'r ystiward heibio, buasai groeso i mi o'r mafon, a gallaswn brofi hyd yn oed i gipar nad oeddwn yn gwneud dim drwg.

Y peth arall ddaeth i'm meddwl oedd nad yw'n ddoeth ar amaethwr gadw ymwelwyr draw o'r lle iach hwn. Talent am eu lle, am eu llaeth, am eu bara a'u hymenyn a'u cig, a byddai yntau ar ei fantais arnynt. Ond ni ddof fi byth yma eto. A dyna feddwl llawer, oherwydd nid yw trenau'r teithwyr yn aros yng ngorsafoedd y dyffryn.

A dyma finnau ar y ffordd. Nid wyf am fynd i gaeau neb arall, rhag cael yr un gwaharddiad. Af i fyny'r Garneddwen hyd y ffordd hir; ac er fod llawer o fafon cynnar a rhai llus diweddar hyd y cloddiau, ac er fod mynyddoedd gwyrddion hyfryd i'w gweld drostynt, teimlwn fod y ffordd fel carchar.

Trodd fy meddwl yn sydyn at ffyrdd sydd oll yn hyfrydwch, ffyrdd y mae rhyddid perffaith yn teyrnasu arnynt ac o'u hamgylch, ffyrdd a'u hamrywiaeth yn ddiddarfod, ffyrdd ar y rhai na all neb fod yn sarrug neu'n anheg. Y ffyrdd hyfryd yw ffyrdd llenyddiaeth.

Ers deng mlynedd ar hugain bellach yr wyf mewn cymundeb a gohebiaeth barhaus â phobl ieuaine feddylgar Cymru. Er llawenydd i mi, y mae newid wedi dod dros y cwestiynau arferent ofyn. Unwaith gofynnid am gyfarwyddyd i ennill gwobr, yn awr gofynnir am y ffordd oreu i fynd i mewn i faes llenyddiaeth. Diddorol, yn ddiau, yw fod rhai Cymry ieuainc yn dringo at wobrau uchaf ysgolion a cholegau'r wlad; anhraethol mwy diddorol yw teimlo fod lefain o bobl ieuainc yng nghyfangorff llafurwyr a mwnwyr ac amaethwyr a chrefftwyr ein gwlad wedi teimlo hyfrydwch ffyrdd llenyddiaeth.

Y mae llawer ffordd i ŵr ieuanc, fedd ychydig o oriau hamdden fin nos, dramwyo i lenyddiaeth Cymru.

Y ffordd symlaf a hawddaf yw cymeryd llawlyfr hanes syml, er mwyn cael cipolwg ar rediad hanes y wlad; bydd yn hawddach, wedi hynny, cael cipolwg ar rediad meddwl y bobl. Y mae digon o lawlyfrau'n rhoddi amlinellau hanes Cymru, o geiniog i gini o bris. I rywun yn dechre goreu bron po fyrraf fo'r llyfr. I gael hanes llenyddiaeth Cymru, rhaid cael llawlyfrau mwy, ac o leiaf dri o honynt. Nid ydynt yn hawdd iawn eu cael ychwaith, ond gellir eu benthyca o lyfrgell neu eu darllen yno. Y cyntaf yw "Literature of the Cymry," o waith Thomas Stephens, sy'n rhoi hanes llenyddiaeth Cymru hyd 1322; yr ail yw Hanes Llenyddiaeth Cymru o 1320 hyd 1650, gan Gweirydd ab Rhys; a'r trydydd yw Hanes Llenyddiaeth Cymru o 1651 hyd 1850, gan Charles Ashton. Y cyntaf yw y mwyaf meddylgar a mwyaf diddorol, ond y mae wedi ei ysgrifennu yn Saesneg. Y mae'r ddau awdwr arall wedi gofalu mwy am wneud eu ffeithiau yn gyflawn, yn hytrach na gwneud eu meddwl yn drefnus, ac am fudd yr ysgolor a'r efrydydd yn hytrach nag am ddiddordeb y darllenydd cyffredin.

Y mae hon yn ffordd i gyffiniau llenyddiaeth, ond nid oes hyfrydwch ynddi. Gall ambell un, mwy ei egni a'i gydwybodolrwydd na'i gilydd, ei cherdded i'r diwedd. Ond am y rhan fwyaf o honom, llyfrau gwerthfawr i fod ar ein hastelloedd i gyfeirio atynt yw y rhai hyn, ac nid rhai i ddangos i ni ar ddechreu'n taith gymaint o wynfydedd sydd o'n blaen. Y Porth Sych i wlad llenyddiaeth yw'r ffordd hon.

Y mae ffordd arall, drwy Borth y Beirdd. Cymerer tri llyfr, Alun Mabon Ceiriog, Awdl y Flwyddyn Eben Fardd, a rhannau o Ystorm Islwyn. Bum yn siarad a channoedd o Gymry sydd wedi dod i hyfrydwch llenyddiaeth gydag Alun Mabon, ac ni chefais un o honynt heb deimlo swyn naturiol a syml Ceiriog. Y mae miwsig hen alawon yn yr iaith, ac adlais o hen gartrefi yn y meddwl; y mae ieuenctid a'i hapusrwydd yn dod yn anfarwol, a Natur hen yn ieuanc byth. Y mae meddwl Awdl y Flwyddyn yn gain a chlir, yr iaith yn feistrolgar o syml a chyfoethog; trysorfa o emau ydyw; nis gwn am ddim sy'n cynnwys cymaint amrywiaeth o hyfrydwch mewn unoliaeth mor syml. Yn rhannau o'r Ystorm, hwyrach, y mae meddwl Cymru, hyd yn hyn, wedi cyrraedd ei fan uchaf. Gŵr oedd Islwyn oedd yn anhraethol uwch na neb dyn a'i hysbrydolodd, ac nid oes ysgol y gellir ei gyfyngu iddi, y mae'n llais i fardd mwyaf Lloegr yn ei ganrif ac i athronydd mwyaf yr Almaen heb oleuo ei lusern wrth dân yr un o honynt hwy. Pan fo gŵr ieuanc wedi teimlo nerth a swyn y tri gwaith hyn, gall ei ystyried ei hun yn un wedi cael ysgol dda. A ymlaen, wrth ei bwysau, i ddarllen ychwaneg o waith y tri, a myn wybod sut y mae eu bywyd yn esbonio eu gwaith. Hoff ganddo hwyrach fydd medru ar dafod leferydd ambell ddarn sy'n mynnu aros ar ei glyw, megis "Aros mae'r mynyddau mawr," "Ymweliad â Llangybi," a "Cheisio Gloewach Nen."

Y mae llawer ffordd arall at y porth hwn. Gellid, er esiampl, gymeryd Myfanwy Fychan Ceiriog, Awdl Heddwch Hiraethog, ac Awdl Elusengarwch Dewi Wyn. Yn wir, y mae cyfoeth o drioedd fel hyn yn ein barddoniaeth.

Porth arall yw Porth y Llenorion. Gellir cymeryd rhyddiaith yn lle barddoniaeth. Yn ein gwlad ni y mae rhyddiaith wedi cael peth cam. Ysgrifennir barddoniaeth ym munudau cynhyrfiad, y mae meddwl yr enaid ac ei lawn egni, ac afradir gofal ar ddewisiad geiriau ac arddull. Ond munudau cyffredin bywyd roddir i ryddiaith, a chymerir y gair agosaf at law. Ond bu un cyfnod yn hanes Cymru ddechreuodd mewn cynhyrfiad meddwl grymus ac a ddiweddodd mewn arddull gain. Ffrwythau goreu'r cyfnod hwn yw Llyfr y Tri Aderyn Morgan Llwyd, Gweledigaethau Bardd Cwsg gan Ellis Wynne, a Drych y Prif Oesoedd gan Theophilus Evans. Yr oedd cyfnod Morgan Llwyd y cyfnod rhyfeddaf yn hanes Prydain. Cododd y bobl yn uwch, o ran teimlad a gweled, nag y codasant cynt nac wedyn; ac yn y cyfnod hwn y gwelwyd bron bob meddwl mawr sydd wedi gorchfygu o hynny hyd yn awr. I'r cyfnod hwn yr eir i chwilio am ysbrydiaeth gan bob proffwyd ac apostol. Y mae Crynwyr y dyddiau hyn yn ceisio adnewyddu eu sel a'u grym trwy fynd yn ol at George Fox. Pan oedd bardd mwyaf ein hoes ni a'n tadau yn gweld angen ymnerthu ac ymladd o'r newydd, at Milton y trodd, gan ddweyd, "England hath need of thee." Ar un wedd y mae Cromwell, a Vane, a Blake yn llefaru eto pan ymysgydwo pobl i wrando arnynt. Llais Cymru yn y dyddiau hynny oedd llais Morgan Llwyd, a gall efrydydd Cymreig droi ato am ysbrydoliaeth. Er amled ei ystormydd, dydd o ysblander anghymharol oedd dydd y Chwyldroad Puritanaidd. Ac weithiau y mae i ddydd felly nawn tawel dwys, a'i liwiau wedi tyneru, ac ysbryd gorffwys dros y fro. Ar nawn felly y breuddwydiodd Ellis Wynne ac y dychymygodd Theophilus Evans. Dywedir fod cyfansoddi yn yr iaith Roeg yn rhoddi ceinder anileadwy hyd yn oed i lawysgrif yr hwn a'i gwna. Y mae darllen y tri gwaith hwn, rhai mor anhebig i'w gilydd a chyda pherffeithrwydd mor wahanol, yn sicr o adael argraff ddigamsyniol ar arddull y neb a'u darlleno, rhoi nôd arni sy'n llawer amlycach a gwerthfawrocach na certificate yr un ysgol ac na thestamur yr un brifysgol. Cyn deall y gweithiau hyn yn llawn, rhaid cael rhyw syniad am hanes yr amseroedd. Fel y mae'r gwaethaf, nid oes lyfr yn Gymraeg rydd yr hanes hwn. Pryd, tybed, y blina ein haneswyr ar ogofau gweigion yr oesoedd tywyll ac ar ryfeloedd diffrwyth yr oesoedd canol? Pryd y gadawant fân gwerylon yr hen dywysogion ac achau anorffen eu beirdd, ac y troant eu sylw at adeg y mae gwaed bywyd dynoliaeth i'w glywed yn curo ynddo? Nid ydynt wedi gwneud hyn eto, yr un ohonynt. Felly, rhaid i mi enwi llyfr Saesneg. Llyfr mewn cyfres o lyfrau ysgol ydyw, ei enw yw The Puritan Revolution. Y mae'n llawer amgenach peth nag a ddisgwyliech gael mewn cyfres felly, wedi ei ysgrifennu'n fanwl o lawnder gwybodaeth S. R. Gardiner, un o haneswyr goreu y blynyddoedd diweddaf.

Y mae llu o ffyrdd hyfrydwch eraill yn arwain at Borth yr Ardaloedd. Cymerer un ardal, edrycher ar ei golygfeydd, chwilier ei hanes, gwnaer rhestr o'i beirdd, ac ystyrier rhediad ei meddwl. Goreu i bob efrydydd ei ardal ei hun. Os Llansannan yw honno, neu Langybi, neu Lanymddyfri, neu aml i lan arall, caiff fynd trwy borth ei etifeddiaeth ei hun. Neu gellir cymeryd ardal eangach, dyweder Môn neu Leyn, neu Ddyffryn Clwyd, neu Ddyffryn Towi. Os cymerir Llansannan, dyna i chwi Dudur Aled, William Salisbury, Henry Rees, Gwilym Hiraethog, a Iorwerth Glan Aled, —os gwyddis banes y rhai hyn adnabyddir ysbryd llenyddiaeth Cymru bron ym mhob un o'i lwybrau.

Arweinia ffyrdd eraill, rhy aml i mi fedru eu henwi, at Byrth y Bywydau. Dyma'r ffordd, hwyrach, lle gwelir y mynyddoedd uchel, a lle daw mwyaf o ysbrydiaeth arwrol i'r meddwl. Cymerer tri llyfr,—Cofiant Ann Griffiths gan Morris Davies, Bangor, Atgofion am John Elias gan Gwalchmai, a Cofiant John Jones Talsarn gan Owen Thomas. Hanes syml yw'r cyntaf, hanes merch amaethwr ysgrifennodd emynau na ellir cymharu emynau yr un emynyddes, oddigerth rhai brenhines Navarre hwyrach, â hwy. Dyma'r dull symlaf ar fywgraffiad. Penodau yw'r ail gan un o'r ysgrifenwyr rhyddiaith mwyaf clir a dillyn fedd ein cenedl. Arweinia'n naturiol at y trydydd; ac y mae hwn, ar fwy nag un cyfrif, yn un o'r llyfrau hynotaf yn yr iaith Gymraeg. Yr oedd y Dr. Owen Thomas wedi ei eni'n fywgraffydd. Yr oedd ganddo gof diderfyn at groniclo manylion, ac yr oedd ganddo feddwl athronydd i godi uwchlaw'r manylion ac i'w gweled oll yn eu lle. Synnwyd fi lawer tro gan fanylrwydd ei wybodaeth, a chan nerth ei gof. Bu'n adrodd wrthyf unwaith hanes fel y gwelodd John Jones Talsarn gyntaf. Ni fu'n edrych arno'n hir yn cerdded mewn gardd. Ond yr oedd wedi cyfrif faint o fotymau oedd ar ei wasgod; ac yr oedd yn cofio, ymhen tri ugain mlynedd ac ychwaneg, pa flodau oedd yn tyfu ar lwybrau'r ardd. Ac y mae ei "Hanes John Jones" yn un o'r llyfrau mwyaf cyfoethog yn yr iaith Gymraeg. Yn wir, efe yw'r hanes Cymru goreu sydd wedi ei ysgrifennu eto, yn yr agwedd honno ar hanes sy'n apelio at y meddwl Cymreig. Y mae'r llyfr hwn yn llyfrgell ac yn oriel ddarluniau ynddo ei hun. Gellir troi iddo ddydd ar ol dydd, a chael ynddo drysorau na heneiddiant, ond a ddaliant i ddisgleirio o hyd. Wedi darllen y tri llyfr hyn bydd yr efrydydd yn teithio ymlaen i'r dyfodol yng nghwmni cewri, ac adlewyrchir ar ei enaid lawer o'u harddwch a'u nerth. A bydd ei ffordd yn ffordd hyfrydwch.

Neu gellid dewis llawer tri bywgraffiad arall, neu dri hunan-gofiant, hanes cenhadon hedd, neu fwnwyr, neu ddyfeiswyr, neu deithwyr. Y mae ffyrdd hyfrydwch yn mynd trwy lu o byrth eraill, megis Porth y Rhamantau, Porth y Dychymyg, Porth y Ser, Porth y Blodau, Porth y Crefyddau, Porth y Dyfeisiadau, Porth y Gwledydd Pell, Porth y Plant. Ond rhaid eu gadael ar hyn o bryd.

Y mae miloedd o Gymry wedi darganfod y ffyrdd hyn, ac y maent wedi cael mwy o gyfoeth o honynt nag a gafodd neb o'r aur a'r calch a'r glo sydd ym mynyddoedd Cymru. Yr wyf yn gobeithio yr adroddant, o un i un, pa fodd y cawsant flas ar lenyddiaeth, pa ffordd hyfrydwch y cychwynasant arni, ac at ba borth y cyfeirient. Bydd yn dda gan eraill weled eu camrau, a phwy ŵyr faint o ddilyn fydd arnynt i hyfrydwch pur?

Ond dyma fi eto ar ffordd y Garneddwen, ac yn dod yn agos i rediad dŵr. Y mae'r ffordd yn gyfyng, y mae rhywun wedi meddiannu'r tir hyd ati bob modfedd o'i hyd. Ond y mae ffyrdd yn eiddof finnau, ffyrdd heb derfyn ar eu rhif ac heb ddiwedd ar eu hyfrydwch.

Nodiadau golygu