Er Mwyn Cymru/Llwybrau Newydd
← Prifysgol y Gweithwyr | Er Mwyn Cymru gan Owen Morgan Edwards |
Difenwi Cenedl → |
LLWYBRAU NEWYDD
RHYW dro yr oedd y diweddar Arglwydd Coleridge wedi dod i ymweled â Benjamin Jowett. Tra yn aros i'r gŵr dysgedig a doeth ddod i mewn, cyfeiriodd rhyw ferch ieuanc oedd yn y cwmni at ei weddi dyddiol, sef ar iddo gael ei gadw rhag mynd yn geidwadol yn ei hen ddyddiau. Ac ebe Coleridge, mor ddifrifol a phe bai ar ganol rhoi ei ddyfarniad pwysfawr ar fainc y barnwr,— "Y mae llawer o weddiau fy nghyfaill wedi eu hateb, mae'n ddiameu. Ond ni atebwyd y weddi yna."
Mae'r un deddfau yn rheoli bach a mawr. Pan rewir y llynnoedd mawr, rhewir y llynnoedd bach. A gallwn ninnau, eiddilod, weddio gweddi Jowett, a heb ein hateb.
Yr wyf yn gweled fy nghydwladwyr yn cerdded llwybrau newydd bron bob dydd. Ac y mae rhai o'r llwybrau a'r mordeithiau yn ddieithr i ni, ac yn ddieithr, yn ol fy nhybiau a'm rhagfarnau, i natur y Cymro. Tybed fy mod i'n mynd yn geidwadol, ynte a wyf yn gweld eraill yn llusgo'u hangorion? Cymerwn drem ar bethau dibwys iawn, er mwyn i chwi fedru rhoddi goleuni imi ar fy llwybr.
Echdoe yr oeddwn yn teithio hyd y ffordd haearn i fyny i un o gymoedd glo Morgannwg. Yn yr un cerbyd â mi yr oedd gŵr ieuanc trwsiadus, gweithiwr mewn dillad gwyl, gyda wyneb glân hoffus,—un lonnodd lawer aelwyd fel plentyn ac fel priod, oherwydd dywedodd ei fod newydd briodi. Yr oedd ei ysgwrs yn athronyddol sosialaidd; siaradai fel un wedi arfer siarad a dadleu llawer yn gyhoeddus, a mynych y gofynnai a oeddwn yn gweld ei bwnc; soniai lawer am egwyddorion, ac yr oedd yn amlwg ei fod wedi darllen a meddwl. Ond yr oedd yn feddw. Nid oedd ei feddwdod eto yn fwystfilaidd nag yn gythreulig. Yr oedd y ddiod wedi effeithio mwy ar ei dafod nag ar ei gylla na'i feddwl. Ceisiai siarad, ond ai'n afrwyddach o hyd. Dylwn ychwanegu mai Cymro oedd, gwelir ei debig yn ein Hysgolion Sul yn athrawon ac yn arolygwyr. Siaradai Gymraeg y Fro, oedd yn brydferth hyd yn oed ar wefusau'r meddw.
Toc peidiodd a siarad, ond, a sigaret yn un law, mesurai ei dalcen yn barhaus â'i law arall, gan edrych yn awgrymiadol arnaf fi. Esboniwyd imi mai dangos fod fy nhalcen yn gul yr oedd, a'm henaid yn gul, oherwydd fy mod yn gwrthod gadael iddo ysmygu mewn cerbyd lle nad oedd gan neb hawl i ysmygu. A daeth cwestiwn i'm meddwl, a phoen a dychryn yn ddwy asgell iddo, —A yw rhyddhau'r meddwl oddiwrth yr hen anwybodaeth yn dwyn gydag ef ryddhau'r enaid oddiwrth hen dlysau hoff rhinwedd a moes a gweddusrwydd? Ai'r dafarn sy'n rhyddhau, a'r addoldy'n caethiwo, mewn gwlad werinol fel Cymru? A yw'r goleuni newydd i ddod yn nillad halog a budron yr hen bechodau alltudiwyd o fywyd Cymru drwy ymdrechion ei chymwynaswyr goreu?
Drannoeth yr oeddwn yn cyrraedd gwesty, gwesty dirwestol, yn un o gymoedd poblog Gwent, Yr oedd yno delynau a dawnsio. Yn y fynedfa yr oedd chwech neu saith o wyryfon ieuainc, glân o bryd a gwedd a chwaethus eu gwisg, oll yn ysmygu sigarennau, ac yn ceisio dangos i bawb eu bod yn gwneud hynny. Tybient fod hyn yn brawf eu bod yn ddewr ac yn anibynnol, ac wedi dianc o hen gaethiwed syniadau cul. Nid wyf yn dweyd fod ysmygu yn beth hyllach ar ferch nag ar ddyn; yr hyn deimlaf yw ei fod yn beth hyll ym mhawb, —yn arferiad wastraffus, afiach, a budr. Nid hoedenod penwan, deallais, oedd y rhai hyn, ond merched digon deallgar a darllengar. Ac yr oeddynt am ddangos eu bod ar lwybrau newydd y meddwl drwy daflu oddiwrthynt bob yswildod gwyryfol a phob parch i deimlad rhai a barchant, ond a ystyriant yn gul.
Oni ellir dysgu'n pobl ieuainc i gerdded y llwybrau newydd gyda'r hen osgo brydferth a llednais? Oni ellir awchu'r meddwl, eangu'r cydymdeimlad, grymuso'r enaid heb wanhau moes ac heb amharu chwaeth? Gellir, onite nid yw'r awchu meddwl ond dynwarediad difin, nid yw'r eangu'r cydymdeimlad ond llacrwydd gwan, ac nid yw herio'r hen chwaeth ond gwaith gwendid penchwiban yn ffugio cerdded fel nerth urddasol.
Ond rhaid i genedl y Cymry ddeffro ac ymegnio, er mwyn achub ei phlant.
Un ddyletswydd amlwg yw ail godi'r Ysgol Sul i fod yn sefydliad addysgol penna'r genedl. Danghosodd Cynhadledd Zurich, yn yr haf diweddaf, fod cenhedloedd effro eraill yn ymegnio i godi'r Ysgol Sul i fri a dylanwad[1] Gwneir hyn yn enwedig yng Nghanada effro, lle mae pob llwybr yn newydd, ac yn yr Unol Dalaethau cyfoethog. Ond ceir yr ysgol hon yn hen ardaloedd y saith eglwys, ym Madagasgar a gwlad y Bechuana, yn Samoa a Fiji, a gostyngodd ymherawdwr Japan ei faner iddi. Yn hon ceir cerdded y llwybrau newydd mewn prydferthwch yn gystal ag mewn nerth.
Y mae sefydliadau addysg eraill, a'r rhai perffeithiaf eu dull yn debig i'r Ysgol Sul. Cefais gyfle i enwi un, ond y mae arnaf ofn na ddanghosais yn ddigon clir beth oeddwn yn feddwl. Tybiodd llawer, yn ddiau, wrth ddarllen fy llith ar Brifysgol y Gweithwyr, yn y bennod ddiweddaf, mai breuddwyd oedd fy neges. Ond nid breuddwyd heb ei sylweddoli yw, eithr ffaith. Y mae amryw athrawon ieuainc, yn barod, yn rhoi eu holl amser i'r gwaith; y maent wedi cael addysg sy'n eu cyfaddasu at y gorchwyl, y mae rhai ohonynt wedi cael y graddau mwyaf anrhydeddus fedr y prifysgolion roi. A gwell na hynny, y maent yn ddynion profiadol, wedi bod yn weithwyr a chynllunwyr eu hunain, yn chwarelwyr, yn lowyr, yn amaethwyr. Y mae eu calon yn eu gwaith, gallasent gael lleoedd llawer gwell a chyflogau llawer uwch; ond teimlant bwysigrwydd eu gwaith yn hytrach na'u hawl i gydnabyddiaeth deilwng. I gyfarfod y rhai hyn, daw bechgyn a merched ieuainc, oddiwrth waith y dydd, yn awyddus am wybodaeth. Pe gwelech hwy, a phe clywech hwy, teimlech yn hapus wrth gofio mai yr eiddynt hwy yw dyfodol Cymru.
Nodiadau
golygu- ↑ Cyflwynaf i sylw carwyr Cymru bamffledyn dwy geiniog, gyhoeddir gan y Parch. M. H. Jones, B.A., Penllwyn, ar "Hanes Cynhadledd Zurich." Yr wyf yn hyder y deffry Cymru i ymdrech newydd i gadw'r Ysgol Sul yn ei grym a'i dylanwad ac i fynnu'r genedl yn fwy llwyr yn eiddo iddi.