Er Mwyn Cymru/Prifysgol y Gweithwyr
← Ffarwel i'r Mynyddoedd | Er Mwyn Cymru gan Owen Morgan Edwards |
Llwybrau Newydd → |
PRIFYSGOL Y GWEITHWYR
NID yw yr amser wedi dod eto i ysgrifennu hanes sefydlu Prifysgol Cymru. Pan ddaw, ceir goleu diddorol ar ymdrechion llawer un dros addysg ein gwlad, megis Gladstone a Iarll Rosebery, ac yn enwedig Arthur D. Acland a Thomas E. Ellis.
Nid oedd y Brifysgol, yn y ffurf roddwyd iddi, wrth fodd pawb; yr oedd llawer o'r Cymry mwyaf cenedlgarol yn dymuno i'w chylch fod yn eangach, a'i hysbryd mewn cyffyrddiad amlach ac agosach â'r werin. Erbyn hyn y mae'n hyfryd meddwl fod y Brifysgol yn hollol genedlaethol, ni all neb ddweyd fod lliw plaid na sect arni, ac y mae'r amrywiaeth sy'n hanfodol i Brifysgol yn ei bywyd. Ond ni phroffwydid hyn gan bawb ar y dechre, a mynnent sicrhau o fewn cylch ei bywyd agweddau ar addysg ystyrient hwy yn rhan o fod Prifysgol berffaith.
Erbyn hyn y mae'n bosibl ymdrin â'r agweddau hynny heb beri tramgwydd i neb. Ac eithaf peth fyddai rhoi grym defnyddiol a pharhaol i ambell ddathlu gwyl Dewi trwy ymdrin â hwy yn yr ysbryd brawdol caredig sy'n nodweddu'r dydd hwn. Galwaf sylw fy nghydwladwyr at un agwedd arbennig, ac at un yn unig.
Beth yw'r berthynas rhwng Prifysgol Cymru â gweithwyr Cymru? Addef pawb fod y Brifysgol yn brifysgol y werin; er, hyd yn hyn, mai prin yw'r ddarpariaeth at gynorthwyo plant ysgol i ddringo iddi. Ond, a yw ei bendithion yng nghyrraedd y gweithwyr? Gwir y gall mab y gweithiwr fynd i'r Brifysgol, os medr ei dad gynhilo digon, ac os bydd yntau yn ddigon ffodus i ennill rhai o'r ysgoloriaethau prin. Ond beth am y gweithiwr ei hun, ac am ei feibion a'i ferched sydd gartref, oll yn dibynnu ar lafur oriau eu dydd? A yw addysg prifysgol o'u cyrraedd hwy?
Pan benderfynwyd ar ffurf Prifysgol Cymru, nid oedd, mewn gwirionedd, ond un cynllun derbyniol. Yr oedd colegau mewn bod yn barod, ac nid oedd dim yn bosibl ond corffori y rhai hynny'n brifysgol. A dyna wnawd. Ond yr oedd delw o brifysgol bur wahanol ym meddwl rhai o addysgwyr craffaf Cymru. Nid oedd i hon adeilad, na lle canolog. Yr oedd ei dosbarthiadau i fod ymhob tref a phentref a chwm drwy Gymru i gyd. Yr oedd ei darlithiau a'i dosbarthiadau i fod yn oriau egwyl y gweithiwr. Pe felly, a phe safasai cyfaill o Sais gyda Chymro ar ben y Wyddfa neu Bumlumon neu Fannau Brycheiniog, a phe gofynasai i ba gyfeiriad yr oedd Prifysgol Cymru, gallasai'r Cymro gyfeirio ei lygaid at bob cwm a dyffryn a dweyd,— Wele, y mae pabell Prifysgol Cymru ym mhob un o'r llennyrch a welwch o amgylch godre'r mynyddoedd hyn."
Yr oedd prifysgol felly yn rhy newydd yr adeg honno. Cenedl fyw egniol, lawn dychymyg a chywreinrwydd, yw cenedl y Cymry. Ond, er ei holl frwdfrydedd, cenedl ofnus iawn ydyw pan yn meddwl am roi cam ymlaen. Gŵyr y gall arwain cenhedloedd eraill; ond ei hen arfer llwfr yw chwilio am lwybrau wedi eu troedio'n barod, a chwilio'n aml am arweinwyr dieithr i'w thywys hyd-ddynt. Lle mae'r llwybrau NEWYDDION dorraist, rhai y gallai cenhedloedd eraill dy ddilyn yn hyfryd, fy nghened hoff? A oes gennyt ychwaneg na'r Ysgol Sul, y Cyfarfod Llenyddol, a'r Eisteddfod? Ac a yw hen lwybrau cenhedloedd eraill mor swynol fel na fynni dorri llwybrau i ti dy hun? Ai dilyn fynni, lle y rhoddodd Duw i ti athrylith i arwain?
Erbyn hyn y mae prifysgol i'r gweithwyr yn prysur dyfu, megis canghennau i Brifysgol Cymru. Y mae math ar undeb wedi ei ffurfio rhwng gweithwyr Cymru a cholegau'r Brifysgol. Y gwŷr a wnaeth yr undeb hwn yw gwŷr ieuainc gododd o fysg gweithwyr Cymru, ac sydd yn awr yn raddedigion y Brifysgol neu yn athrawon ynddi. Cyferfydd dosbarthiadau o wŷr ieuainc a merched ieuainc meddylgar a darllengar Cymru, wedi eu horiau gwaith, a daw athro atynt o'r Brifysgol, i roi iddynt ddarlith am awr, ac yna i arwain ymdrafodaeth am awr arall. Yn Lloegr y cychwynnodd y symudiad, ond yng Nghymru, neu o leiaf gan Gymro, y gwelwyd ei werth gyntaf, ac yng Nghymru y mae'r rhagolygon mwyaf addawol iddo. Nid yw wedi cael enw Cymraeg eto; y mae'r enw Saesneg, sef "Workers' Educational Association," yn rhy hir ac afrosgo, ac ni cheir ynddo lais i'r berthynas rhwng y gweithwyr a'r Brifysgol, sef y berthynas sy'n nodweddiadol o'r mudiad. Yr wyf wedi meiddio ei fedyddio yn Brifysgol y Gweithwyr."
"A fedr gweithwyr cyffredin, ar ol oriau blin eu llafur, wneud gwaith efrydwyr prifysgol? Gallant, y maent yn ei wneud, ac yn gwneud gwaith, mewn llawer man, sy'n deilwng o anrhydedd prifysgol. Mae rhai o'r dosbarthiadau hyn o amgylch y Wyddfa, —yn Llanberis, a Phen y Groes, a Bethesda, a Blaenau Ffestiniog. Mae rhai eraill yng nghanolbarth Cymru, yn Abermaw a Thowyn ac Aber— ystwyth, yn Abergynolwyn ac Aberllefeni. Ceir rhai ym Morgannwg, yn yr hen Lanilltyd Fawr a Phenybont ar Ogwr, yn y Barri a Chaerdydd, yn Abertridwr a Phenrhiwceibr,—ar y Fro ac yn y Bryniau. Ceir hwy yng Ngwent,—yn Abertileri a Bedwas, yn Rhymni a Bedwellty, yn y Coed Duon a Mynydd Islwyn.
Nid yw hyn ond dechre. Daw yr amser pan fydd dosbarth ymhob pentref. Bydd nifer o bobl ieuainc, rhai wedi gadael yr ysgol ac yn gwneud gwaith eu bywyd, yn cyfarfod ei gilydd, nid i wag ymblesera trwy edrych ar ddarluniau hud sy'n dinistrio eu chwaeth ac yn gwneud eu meddwl yn llibyn, ond i awchu min eu meddwl, ac i gael y pleser rhyfeddol geir wrth godi i fryniau uwch a gweled cyfandiroedd newydd ymherodraeth eu meddwl. A phan geir gwlad â'i phobl ieuainc wedi eu disgyblu fel hyn, pa wlad mor hapus a hi? Pob clod i'r rhai ddarparodd "ysgol" i'r ieuanc athrylithgar ddringo, er mai dringo oddiwrth ei wlad a'i werin wna yn ddigon aml. Ond dyma ddarpariaeth ar gyfer y rhai sy'n aros yn eu hardaloedd; a thrwyddi hi caiff yr ardaloedd hynny arweinwyr meddylgar a diogel. Byddai gynt, drwy bob rhan o Gymru, dywysogion fedrai ymhyfrydu yn arddull gain a swyn dieithr y Mabinogion. A bydd uchelwyr meddwl Cymru, blodau ei gweithwyr, arweinwyr ei bywyd ymhob cwm prydferth a thref boblog ynddi, wedi eu trwytho âg ysbryd eang, addfwyn, a gostyngedig y wir brifysgol. Ac eiddynt hwy fydd y gallu, a gwyn fyd Cymru pan ddeuant, heb sŵn utgorn na thabwrdd, i'w hetifeddiaeth.
Yn y dosbarthiadau hyn ceir rhai o nodweddion goreu y brifysgol berffaith.
i.—Cânt chwilio am wybodaeth er ei fwyn ei hun. Nid oes sôn am arholiad, ond un wirfoddol. Y mae cydymgais yn siwr; ond cydymgais ydyw am y mynediad helaethaf i mewn i deyrnas y meddwl, ac ni siomir neb. Ni raid wrth arholiad i brofi, mae prawf eglur yn yr ymarweddiad prydferthach, yn y meddylgarwch mwy hoffus, yn y defnyddioldeb mwy.
ii.—Cânt ddewis y pwnc sy'n cyfateb i angen eu meddwl a'u hardal. Hyd yn hyn hanes ac athroniaeth hanes ddewisir bron yn ddieithriad; ond nid yr hen hanes politicaidd sych am frenhinoedd a rhyfeloedd, eithr hanes datblygiad distaw y werin amyneddgar dirion dan arweiniad amlwg llaw rhagluniaeth. Nid oes faes trwy eang gylch gwybodaeth sydd mor swynol i werinwr; mae digon o le ynddo i'w gywreinrwydd a'i ddychymyg. A gwel ei fywyd ei hun ymhob cam
iii.—Cânt ddull cyfrannu addysg prifysgol ar ei pherffeithiaf. Dau ddatblygiad perffeithiaf addysg yw Ysgol Sul Cymru, lle mae'r efrydydd yn ddisgybl ac yn athro bob yn ail, ac weithiau y ddau ar unwaith; a chyfundrefn athrawol (tutorial system) Rhydychen a Chaergrawnt, lle mae'r disgybl mewn cysylltiad personol agos a pharhaus â'i athro. Y mae'r gyntaf yn bosibl oherwydd ymroddiad cenedl o bobl i ddysgu ei gilydd; y mae'r ail yn bosibl oherwydd fod i'r prifysgolion waddoliadau mawr, a thraddodiadau mil o flynyddoedd. Nis gallaf eu hesbonio yn awr, gwnaf hynny eto. Ond dywedaf hyn, y mae'r dosbarthiadau yr wyf yn sôn am danynt yn meddu nodweddion y brifysgol berffaith. Bydd Prifysgol y Gweithwyr, yng nghyflawnder yr amser, yn brifysgol berffeithiaf sy'n bod at anghenion gwerin gwlad.
Y peth rhyfeddaf i ni yw fod mor ychydig yn gwybod am y dosbarthiadau yr wyf yn sôn am danynt, a bod llai fyth yn gweled eangder a phwysigrwydd y dyfodol sydd iddynt.