Ffoed negeseuau gwag y dydd

Iesu yw'r enw mawr di-goll Ffoed negeseuau gwag y dydd

gan William Williams, Pantycelyn

Er maint yw chwerw boen y byd

119[1] Neb ond Iesu.
M. C.

1.FFOED negeseuau gwag y dydd,
Trafferthion o bob Rhyw;
Ac na pharhaed o dan y nef
Ond cariad pur fy Nuw.

2 Meddiannodd Ef â'i ddwyfol ras
Fy holl serchiadau'n un;
Na chaed o fewn i'm hysbryd fod
Neb ond fy Iesu'i Hun.

3 Mae'r Iesu'n fwy na'r nef ei hun,
Yn fwy na'r ddaear las;
Ac Iesu'n unig fydd fy oll
Fyth, fyth o hyn i maes.

4 Cyflawnder nerth, cyflawnder gras,
Cyflawnder nef y nef,
Uwch deall seraffim a saint,
Sy'n trigo ynddo Ef.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell golygu

  1. Emyn rhif 119, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930