Iesu yw'r enw mawr di-goll

Pan sycho'r moroedd dyfnion maith Iesu yw'r enw mawr di-goll

gan Charles Wesley


wedi'i gyfieithu gan anhysbys
Ffoed negeseuau gwag y dydd

118[1] Cysur yn Enw'r Iesu
M. C.

1 IESU yw'r enw mawr di-goll,
Drwy'r ddaear oll a'r nef;
Angylion, dynion, drwg a da,
A blyga iddo Ef;

2 Yr enw a lonna'r enaid gwan
A gŵyd i'r lan ei lef;
A hwn yw'r enw mawr a dry
Ei uffern ddu yn nef.

3 O! na ddôi holl drigolion byd
Ynghyd at Iesu gwiw :
Y breichiau a'm cofleidiodd i
Gofleidiai ddynol-ryw.

4 Mynegi ei gyfiawnder drud
Fo 'ngwaith mewn byd o boen,
A thraethu rhin ei gariad cu,
Cyhoeddi " Wele'r Oen ! "

5 A dedwydd fyddaf yn y glyn,
Os caf amdano sôn;
Mi waedda'n ŵyneb angau du-
"O! wele, wele'r Oen! "

Charles Wesley
Cyfieithydd anhysbys

Ffynhonnell golygu

  1. Emyn rhif 118, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930