Ffordd Duw sydd yn y dyfroedd
← Ti, Arglwydd, yw fy rhan | Ffordd Duw sydd yn y dyfroedd gan David Charles (1803-1880) |
O! Foroedd o ddoethineb → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
67[1] Ffordd Duw'n guddiedig.
76. 76. D.
1.FFORDD Duw sydd yn y dyfroedd,
A'i lwybrau oll yn gudd;
Er hynny, dônt yn amlwg
Pan ddêl yr hynod ddydd:
Holl droeon maith rhagluniaeth—
Bydd clir belydrau Duw
Yn dangos eu cymhwyster
I bob creadur byw.
2.Gan hynny, ymdawelwn
Mewn gostyngeiddrwydd gwiw,
A gwir fwyneidd—dra duwiol
Mewn 'stormydd o bob rhyw:
Pob awel lem anhyfryd—
Yn ôl yr arfaeth gynt,
Ar honno yn marchogaeth
Mae Arglwydd mawr y gwynt.
David Charles (1803-1880)
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 67, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930