Ti, Arglwydd, yw fy rhan
← O! Uchder heb ei faint | Ti, Arglwydd, yw fy rhan gan William Williams, Pantycelyn |
Ffordd Duw sydd yn y dyfroedd → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
66[1] Ffoi at Dduw.
66. 84. D.
1.TI, Arglwydd, yw fy rhan,
A'm trysor mawr di—drai,
A noddfa gadarn f'enaid gwan
Ym mhob rhyw wae:
Ac atat 'r wyf yn ffoi,
Dy fynwes yw fy nyth,
Pan fo gelynion yn crynhoi,
Rifedi'r gwlith.
2.Tydi, fy Nuw ei Hun,
Anfeidrol berffaith Fod,
Sy'n trefnu daear, da, a dyn
I'th ddwyfol glod;
Cyfrwydda f'enaid gwan
Trwy'r anial yn y blaen,
Ac arwain fi 'mhob dyrys fan
Â'th golofn dân.
3.Dy Ysbryd sanctaidd cun
Dywysodd fyrdd o saint,
Rho imi brofi ei felys rin,
Anfeidrol fraint;
Fel dyfroedd gloyw clir,
I lonni'r llesg a'r gwan,
Diddanwch yn yr anial dir
I'm dal i'r lan.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 66, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930