O! Uchder heb ei faint

I Fyny at fy Nuw O! Uchder heb ei faint

gan William Williams, Pantycelyn

Ti, Arglwydd, yw fy rhan
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

65[1] Cyfoeth yn Nuw.
66. 66. 88.

1.O! UCHDER heb ei faint,
O ddyfnder heb ddim rhi',
O! led a hyd heb fath,
Yw'n hiechydwriaeth ni:
Pwy ŵyr, pwy ddwed—seraffiaid, saint,
O'r ddaer i'r nef, beth yw fy mraint?

2.Mae'r ddaear a'i holl swyn
Oll yn diflannu'n awr;
A'i themtasiynau cry'
Sy'n cwympo'n llu i'r llawr;
Holl flodau'r byd sydd heb eu lliw;
'D oes dim yn hyfryd ond fy Nuw.


3.Mae haul a sêr y rhod
Yn darfod oll o'm blaen;
Mae twllwch dudew'n dod
Ar bopeth hyfryd glân:
Fy Nuw ei Hun sy'n hardd, sy'n fawr,
Ac oll yn oll mewn nef a llawr.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 65, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930