Fy Iesu yw fy Nuw (2)
← Enynnaist ynof dân | Fy Iesu yw fy Nuw (2) gan William Williams, Pantycelyn |
O! Nefol addfwyn Oen → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
158[1] Digon yng Nghrist.
66. 66. 88.
FY Iesu yw fy Nuw,
Fy noddfa gadarn gref;
Ni fedd fy enaid gwan
Ddim arall dan y nef;
Mae Ef ei Hun a'i angau drud
Yn fwy na'r nef, yn fwy na'r byd.
2
Fy nymuniadau i gyd
Sy'n cael atebiad llawn,
A'm holl serchiadau 'nghyd
Hyfrydwch nefol iawn,
Pan fyddwy'n gweld, wrth olau'r wawr,
Mai eiddof fi fy Arglwydd mawr.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 158, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930