Enynnaist ynof dân
← Ni chollwyd gwaed y groes | Enynnaist ynof dân gan William Williams, Pantycelyn |
Fy Iesu yw fy Nuw (2) → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
157[1] Grym Cariad Crist.
66. 66. 88.
1 ENYNNAIST ynof dân—
Perffeithiaf dân y nef,
Ni all y moroedd mawr
Ddiffoddi mono ef;
Dy lais, dy wedd, a gweld dy waed,
Sy'n troi 'ngelynion dan fy nhraed.
2 Mae caru 'Mhrynwr mawr,
Mae edrych ar ei wedd,
Y pleser mwya'n awr
Sy i'w gael tu yma i'r bedd:
O! gariad rhad, O! gariad drud,
Sydd fil o weithiau'n fwy na'r byd.
3 Wel dyma'r gwrthrych cun,
A dyma'r awr a'r lle:
Cysegraf fi fy hun byd
Yn gyfan iddo Fe;
Ffarwél, ffarwél, bob eilun mwy,
Mae cariad Iesu'n drech na hwy.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 157, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930