Ni chollwyd gwaed y groes

Mae enw Calfari Ni chollwyd gwaed y groes

gan William Williams, Pantycelyn

Enynnaist ynof dân
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

156[1] Dibenion Gwaed y Groes.
66. 66. 88.

1 NI chollwyd gwaed y groes
Erioed am ddim i'r llawr,
Na dioddef angau loes
Heb ryw ddibenion mawr ;
A dyma oedd ei amcan Ef—
Fy nwyn o'r byd i deyrnas nef.

2 N'ad imi garu mwy
Y pechod drwg ei ryw—
Y pechod roddodd glwy'
I'm Prynwr, O! fy Nuw.
N'ad imi garu dim ond
Ti O'r ddaer i eitha'r nefoedd fry.

William Williams, Pantycelyn


Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 156, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930