Mae enw Calfari
← O! Enw annwyl iawn | Mae enw Calfari gan William Williams, Pantycelyn |
Ni chollwyd gwaed y groes → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
155[1] Gogoniant y Groes.
66. 66. 88.
1 MAE enw Calfari,
Fu gynt yn wradwydd mawr,
Yng ngolwg f'enaid i
Yn fwy na'r nef yn awr:
O! ddedwydd fryn, sancteiddiaf le,
Dderbyniodd ddwyfol waed y ne'!
2 'R wy'n caru'r hyfryd awr,
Mi gara'r hyfryd le,
Mi garaf bren y groes
Fu ar ei ysgwydd E:
Wel dyma 'Nuw a dyma 'Mhen,
Ac oll a feddaf, ar y pren!
3 Ffarwél, deganau byd,
Mae'ch tegwch hyfryd iawn
OLL yn diflannu 'nghyd
Ar Galfari brynhawn:
Mae da a dyn, er maint eu grym,
Yng ngŵydd y groes yn mynd yn dim.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 155, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930