Fy Mhererindod Ysbrydol/Pennod VII

Pennod VI Fy Mhererindod Ysbrydol

gan Evan Keri Evans

Pennod VIII

VII

TAFLAI'R diwygiad oedd ar y ffordd ei gysgod ar flynyddoedd cyntaf fy ngweinidogaeth yng Nghaerfyrddin mewn gweddigarwch dwysach a mwy cyffredinol. Yn 1902 cychwynnwyd cwrdd gweddi undebol gan bobl weddigar y gwahanol eglwysi dan nawdd y Pentecostal League—cymdeithas dan lywyddiaeth Mr. Reader Harris, Q.C., â'i bwriad i gael gan bobl weddigar yr holl eglwysi i uno mewn gweddi am dywalltiad o'r Ysbryd Glân. Yr oedd Mr. Harris ei hunan wedi bod yn un o brif gynorthwywyr Bradlaugh, ac wedi cael troedigaeth hynod, a hynod o lwyr. Torrodd ton o frwdfrydedd moesol hefyd ar gyngor yr eglwysi rhyddion a oedd newydd ei sylfaenu, a gwnaeth ymdrech lwyddiannus i godi safon y cyngor tref. Yn 1903 daeth Mri. David Thomas a Rhys Thomas, dau o gynorthwywyr Mr. Harris, i gynnal cenhadaeth, ac yntau ei hun cyn diwedd yr wythnos, a buont yn foddion i gyffroi bywyd crefyddol y dref i'w waelod—nad oedd yn ddwfn, yn ddiau. Pwysleisient gwbl ymgysegriad i Dduw, a rhoddent le llywodraethol i'r Ysbryd Glân—athrawiaeth ddieithr i ni y pryd hwnnw. Ymhen ychydig fisoedd ymddangosodd y gair Convention—y tro cyntaf i mi ei weld ar ein muriau, a'i amcan, meddid, i" ddyfnhau y bywyd ysbrydol," ac enwau Mrs. Penn-Lewis a'r Parch. R. B. Jones fel y prif siaradwyr. Cof gennyf i mi frysio i fyny o'r Coleg i'r oedfa foreol yn ysgoldy Heol Awst, a chlywed rhan helaeth o anerchiad Mr. Jones ar santeiddrwydd, mewn awyrgylch a ddaeth â chyrddau Drummond yn fyw i'm cof. Yn oedfa'r prynhawn, a anerchid gan Mrs. Penn-Lewis, yr oedd godre Duw'n llenwi'r deml, a phan ofynnodd inni ar y diwedd i blygu'n pennau, ac i bawb a oedd yn derbyn Crist yn Arglwydd i ddweud, "Yes, Lord," ar ôl ymdrech galed cefais help i wneud—gydag ugeiniau eraill a ddaeth i brofiad newydd yno. Yr anhawster oedd i ddyn ei gasglu ei hunan o bob man i'r un pwynt o gwrdd â sialens Crist fel person i'r ewyllys—nid derbyn yr athrawiaeth amdano i'r deall. Am y rheswm hwn, y mae ysgoldy Heol Awst yn gysegredicach i mi nag i lawer o'r rhai a â yno'n awr. Gwir mai dim ond y lle sydd yno, ond

Mae Theomemphus eto yn cofio am y lle
'R anadlodd ar ei enaid dawelaf wynt y ne'.

Y cwbl a brofais ar y pryd oedd teimlad o ryddhad hyfryd, fel pe bai rhannau o'm natur yn syrthio yn ôl i'w lle, a sŵn cynghanedd newydd yn fy isymwybod. Ond dechrau'r fendith oedd hyn. Ar ôl diwrnod neu ddau, cododd dywediad o eiddo Reader Harris—dywediad na wnaeth argraff neilltuol arnaf ar y pryd —i'r wyneb, a hawlio fy sylw: "Conquer the devil where he has conquered you." Nid oes dim neilltuol yn y frawddeg, ond y mae'n ymarferol bwysig, ac yn ffurfio ochr ddynol ""Nenwedig dal fi lle'r wy'n wan." Wrth edrych o gylch, gwelais fod un peth o leiaf ag eisiau ei wella. Er fy mod wedi adfeddiannu fy nghwsg i raddau helaeth yn Hawen, hwn oedd fy man gwan i, neu o leiaf un ohonynt, ac wedi methu cysgu byddwn yn dod at y bwrdd brecwast yn anfoddog a drwg fy hwyl. Wel, euthum i'm myfyrgell un bore cyn brecwast, mynd fel mater o ewyllys, ac yn groes i'm teimlad, ac i weddi, gydag effeithiau hollol annisgwyliadwy. Hyd y cofiaf, y mwyaf a ddisgwyliwn oedd rhyw help i orchfygu drwg dymer, neu i'w chadw rhag fy mlino; eithr yn lle hynny fe'm bedyddiwyd â ffrydiau o nerthoedd bywydol, rhinweddol, trawsffurfiol am tua hanner awr a wnaeth imi deimlo'n lân, ac iach, a hoenus hyd gyrrau fy mod. Ac nid oedd eisiau tê na choffi i glirio fy mhen! Yr oedd yn brofiad mor rhyfeddol o hyfryd ac adfywiol fel y ceisiais ef drannoeth wedyn, gyda'r un canlyniadau ; ac felly y parhaodd am ugain mlynedd nes torri o'm hiechyd i lawr yn 1924. Yr oedd weithiau'n fwy ei rym, weithiau'n llai, rai prydiau'n fwy rhwydd, rai prydiau'n llai, ond fel rheol yn dwyn gwobr arbennig i ffydd a dyfalbarhad. Cedwid fi ambell waith ar fy ngliniau am awr, yn awr ac yn y man am oriau, a'r rheiny yn ddios oedd oriau euraid y dydd i mi, yn anhraethol fwy gwerthfawr ac angenrheidiol na brecwast. Ceisiwn yr eneiniad yn ddiffael cyn pregethu ; teimlwn mai ofer fyddai ceisio mynd ymlaen hebddo. Cawn ef mewn helaethrwydd pan fyddai angen. 'Rwy'n cofio siarad am wythnos mewn Convention yn y Rhondda gyda Dr. Pierson, Inwood, ac eraill, yna mynd i Gwmtwrch y Sadwrn, a phregethu yno deirgwaith y Sul a dwywaith dydd Llun, a chodi'n fore dydd Mawrth i ddal y trên ym Mrynaman am Lanelli, lle'r oedd Convention arall ddyddiau Mawrth a Mercher. Pan gyrhaeddais Lanelli, nid oedd Dr. Pierson, yr hwn y dibynnid yn bennaf arno, wedi dod. Yr oeddwn i'n teimlo'n gwbl ddiymadferth, ond yn meddu ar ddigon o ffydd i fynd i'm hystafell wely yn nhŷ fy chwaer-yng-nghyfraith, i ofyn am help oddi uchod, a'i gael, nid mewn ffrydiau, ond mewn afonydd, a barai i mi agos golli fy anadl a gofyn i Dduw atal Ei law. Yn ôl llaw, fodd bynnag, teimlwn yn ddyn newydd llawn o hoen a hyder ysbrydol i fynd ymlaen â chwrdd y prynhawn. Unwaith yn unig y teimlais fy mod yn cael fy nghodi allan o'm hymwybod meidrol, "ai yn y corff ai allan o'r corff, ni wni: Duw a ŵyr." Yr oedd hyn wedi dychwelyd o Keswick yn 1905, pan oedd esgynlawr Keswick wedi ei goresgyn gan ddylanwadau'r diwygiad Cymreig, ac ar fy ffordd i bregethu yn Henllan (Penfro) gyda Mr. Towyn Jones. Yr oedd Towyn yn pregethu'n huawdl fel arfer, a minnau'n siarad "o'r frest." Ymhlith pethau eraill pregethais ar y pechod yn erbyn yr Ysbryd Glân, heb deimlo bod dim arddeliad ar y genadwri. Yr oeddwn yn dra siomedig, ac ni ddeellais fod dim wedi ei wneud am tuag ugain mlynedd, pan ddaeth dyn ymlaen ataf ar sgwâr Caerfyrddin, a oedd fel finnau'n disgwyl am y bus, a dweud yr hoffai glywed y bregeth ar bechod yn erbyn yr Ysbryd Glân a bregethais yn Henllan, eilwaith; iddi fod yn gyfrwng bendith iddo ef a llawer eraill, ac i'r oedfa agos dorri'n orfoledd. Nid oeddwn i'n gallu gosod cymaint o bwys ar "orfoledd" ag ef, ond gwelais fod yr Arglwydd yn gallu gweithio drwy'r pregethwr pan na fyddo ef yn brofiadol o hynny.

Dioddefaf oddi wrth ddiffyg cwsg o hyd dan amgylchiadau arbennig—yn neilltuol arferwn ddioddef pan fyddwn yn siarad ddwywaith neu dair y dydd am wythnos neu ragor mewn cenadaethau neu gynadleddau, ond byddai'r bedydd ysbrydol a gawn yn y bore yn ddiffael yn symud effeithiau anhunedda mwy, gan y gwnâi fi nid yn aniannol hoenus yn unig, ond yn ysbrydol hyderus yn ogystal. Hyd yn oed wedi i'm hiechyd dorri i lawr, yr wyf wedi cael fy adnewyddu dro ar ôl tro. Y mae un tro yn werth ef gofnodi, gan ei fod yn wahanol i'r hyn a arferwn gael. Yr oeddwn wedi addo pregethu mewn cwrdd blynyddol heb wybod fy mod i bregethu deirgwaith y Sul (fe'm cyfarwyddid i osgoi hyn). Nos Sadwrn ni chysgais nemor ddim, a chodais yn blygeiniol i fynd i weddi fel arfer, pryd y cododd yr hyn na allwn ei gymharu ond i haul poeth ar fy ymwybod, a llosgi ymaith y niwloedd tew a oedd wedi codi o'm hanhunedd. Gorlifid fi gan nerth nerfol yn oedfa'r bore, a pharhaodd drwy oedfa'r prynhawn, ond erbyn yr hwyr teimlwn yn ddiymadferth a gwyw, ac analluog i bregethu. Mentrais i'r pulpud, fodd bynnag, heb unrhyw deimlad o nerth, ac wele, fe ddaeth nerth mwy nag a brofais yn ystod y dydd, a'm cario drwy'r oedfa'n orfoleddus.

Gallwn ychwanegu'n ddi-ben-draw ymron, ond y mae digon wedi ei ddweud i ddangos natur y fendith a ddaeth i mi, ac a ddaw i eraill, o gysylltiad dyfnach, a mwy personol bendant â'r ysbrydol. Nid oedd yn llai na bywyd newydd, a bywyd helaethach na'r hwn a fwynhawn yn ugain oed. Ai tybed nad yw ffigur ail-enedigaeth yn cynnwys cyfeiriad at y fath fynegiad o fywyd newydd i hynafgwyr? Eithr nid fy amcan yn awr yw ceisio ei esbonio, pe gallwn. Ni allwn, yn wir, gan yr âi yr ymgais â mi allan o'm dyfnder. Nid yw y rhan fwyaf o feddylegwyr yn gwybod dim am y fath brofiadau, ac ni allant chwaith, gan mai yn unol ag amodau ysbrydol yn unig y ceir hwy. Gofynnais i feddyg cyfarwydd â'r ysbrydol a'r anianol ei farn ar ffenomenau o'r fath, a'r unig beth allai ddweud oedd fod yr Ysbryd Glân yn ddiamau yn gweithredu fel tonic ar y sistem nerfol—yr hyn nad yw ond mynegi'r ffaith mewn geiriau eraill.

Y mae'n eglur i'r darllenydd fod ochr anianegol amlwg i'r profiadau a gawn, ond cefais ras i beidio ag edrych ar yr ochr honno yn fwy o amcan nag o foddion—fel y mae perygl gwneud ar adegau o ddeffroad grymus. Gwyddwn fod yr amodau cyntaf a dyfnaf yn ysbrydol, a bod y gweithgarwch anianegol yn dibynnu ar gydymffurfiad â'r rheiny. Gwyddwn hefyd fod a fynnai eu hamcan â ffynonellau cymeriad yn hytrach na rhoddi i mi iasau nerfol diflannol. Diau fod eisiau'r bedyddiadau hyn yn nhiriogaeth y "doniau "fel "eneiniad i wasanaeth" ("unction for service") ac i loywi ac angerddoli cynheddfau canfyddiadol a deallol a'u galluogi i weld ac amgyffred "pethau na welodd llygad ac na chlywodd clust, ac na ddaeth i galon dyn" anianol; ond yr oedd eu hangen yn bennaf ym myd y "grasusau " i weithredu " fel tân y toddydd a sebon y golchyddion " i lanhau y llygredd a llosgi'r sorod oedd yn fy natur. Barnai Jonathan Edwards ystad ei enaid wrth y breuddwydion a gaffai—cyn bod y term isymwybod wedi ei fathu, ac yna'n mynd at Dduw am ymwared oddi wrth ei "feiau cuddiedig." Yr oedd tarddellau y gweithgarwch y profwn i ei effeithiau yn yr un modd yn ddyfnach na'm hymwybod i, ond codent y diffygion a oedd yno i fyny a'u dangos mewn goleuni llachar iawn. "Pwy a ddeall ei gamweddau? Glanha fi oddi wrth fy meiau cuddiedig," meddai'r Salmydd. Yng Nghynhadledd Llanelli y cyfeiriwyd ati eisoes, pregethodd Dr. Pierson ar" ffrwythau'r Ysbryd " mewn ffordd a wnaeth i mi deimlo fy angen yn ddwys, a diau i'r argraffiadau suddo'n ddwfn i'm calon, gan mai o'u cylch hwy y bu gweithgarwch yr awr weddi foreol yn troi am amser. 'Rwy'n cofio gofyn i'r hen sant paham yr oeddwn i wedi teimlo ddwysaf dan y bregeth honno, tra y tystiai eraill eu bod wedi teimlo fwyaf dan bregeth arall. "It was very likely what you needed, as the Holy Spirit knew," oedd ei ateb, a diau ei fod yn gywir. Yn yr un modd, yr oedd yr hyn a ddarllenwn yng nghofiannau'r saint yn fy marnu a'm condemnio, ac yn ddieithriad yn peri imi deimlo fy mychander ysbrydol. Angerddolid yr holl argraffiadau hyn yn fawr gan danbeidrwydd yr awr foreol. Buaswn yn dweud mai fy santeiddiad oedd yr amcan ynddynt, oni bai nad wyf yn eu cael mwyach, er bod y gwaith o'm perffeithio heb agos ei gwblhau. Pan gawn hwy fel "eneiniad i wasanaeth," yr oedd y wedd gondemniol yn llai amlwg, a llewyrch newydd yn disgyn ar y gwirioneddau y bwriadwn eu pregethu.

Ac nid yn unig yr oedd ochr anianegol ac ochr ysbrydol i'r profiadau hyn, ond yr oedd gwedd wrthrychol yn gystal â gwedd oddrychol i'r ysbrydol. Yr Ysbryd Glân a weithiai yn oddrychol ynof i loywi fy ngolygon a chynhyrchu'r awyrgylch cyfaddas i ganfyddiadau ysbrydol mewn ffordd isymwybodol nas deallwn i, ond y safon wrthrychol y'm bernid wrthi neu y'm hatynnid ati, yn fy ymwybod, oedd yr Iesu, neu ryw arwedd o'i gymeriad a'i berson. Dichon na ellir rhesymu o'r gwahaniaeth hyn mewn gweithrediad i athrawiaeth y Drindod, ond y mae'n sicr na ellir rhesymu yn erbyn hynny gan athronydd na diwinydd ar dir ystyriaethau damcaniaethol, haniaethol. Dim ond profiad diriaethol y saint sy'n gyfarwydd â dyfnion bethau Duw a fedr roddi inni'r praw terfynol

The rest may reason and welcome:
'Tis we musicians know.


Nodiadau

golygu