Fy Mhererindod Ysbrydol/Pennod VIII
← Pennod VII | Fy Mhererindod Ysbrydol gan Evan Keri Evans |
Pennod IX → |
VIII
(Gall y darllenydd a ddymuno ddilyn ffordd fy "Mhererindod" heb ymdroi, ddarllen y bennod hon yn olaf.)
ER nad fy amcan yw trefnu "troeon yr yrfa " mewn sistem ddeallol, y mae eglurder yn gofyn am roddi sylw—mwy nag a roddwyd—i berthynas rhai o'r prif droeon â'i gilydd efallai mai dyma'r man gorau i wneud hynny. Bydd y darllenydd effro, mi gredaf, am ateb i'r cwestiwn, beth yw'r gwahaniaeth rhwng y berthynas â Duw a ddisgrifir ym Mhennod IV, a'r un a ddisgrifir ym Mhennod VII. Pan oeddwn ar fedr ailadrodd sylwedd ysgrif o'r eiddof a ymddangosodd yn Yr Efrydydd flynyddoedd yn ôl ar y mater, syrthiodd fy llygad ar ysgrif gan yr Athro H. H. Farmer, yn The Christian World (Ionor 30, 1936) ar yr un pwnc; a chan ei bod yn fwy diriaethol na'r eiddof i, ac fel y cyfryw yn debyg o fod yn fwy o help i'r darllenydd cyffredin, a chan, hefyd, fod y mater o bwysigrwydd ymarferol yn gystal â damcaniaethol, rhoddaf gymaint o'i chynnwys ag sydd yn berthnasol yn y fan hon.
Testun yr ysgrif yw "Dau fath o Grefydd" ("Two kinds of Religion"). Y mae ganddo gyfaill, meddai ef, a synia am y Cyfanfod—yr hwn a eilw The Ultimate, am fod yr enw God yn awgrymu bod personol yn ormodol—fel egwyddor greadigol a draidd drwy bopeth, ac a'u ceidw gyda'i gilydd, y drwg a'r da, mewn sistem enfawr a threfnus y sydd eisoes, at ei gilydd, rywsut, o brydferthwch a gwerth anfeidrol. Pan yw dyn yn gallu sylweddoli ei le ynddi a'i chynghanedd ogoneddus, y mae yn grefyddol, a theimla ei holl fod yn cael ei ysbrydoli a'i ddyrchafu. Gall y fath sylweddoliad ddod drwy natur, llên, cerdd, sêr y nos, neu ymgyflwyniad i unrhyw achos uchel; ond pa bryd bynnag, ac ym mha ffordd bynnag y daw, ef yw calon a hanfod crefydd.
Ei feirniadaeth gyntaf ar y fath bantheistiaeth yw ei bod yn anwybyddu ffeithiau pechod a thrueni dyn, a dyfynna rannau o ddisgrifiad Walt Whitman o'r trueni hwn mamau tlawd a thenau yn cael eu hesgeuluso gan eu plant hyd yn oed, a marw'n ddiymgeledd a diobaith; dichell a brad yr adyn a huda enethod ifanc oddi ar y ffordd; erchyllterau rhyfel a phla a gorthrwm; tynged merthyron a charcharorion; y gwarth a'r dirmyg a deflir gan feilchion byd ar weithwyr a thlodion, a negroaid er enghraifft; a gofyn pa fath fydysawd i gynganeddu ag ef a'i addoli yw hwnnw a edy bethau fel hyn i fod."
Eithr â'r ail feirniadaeth y mae â fynnom ni yn awr, yr hon a'n dwg at drothwy'r bennod flaenorol (Pennod VII). "Yn wyneb anhrefn a gwyrdro ein bywyd moesol y mae sôn am berthynas o gytgord â'r bydysawd fel crefydd ddigonol fel pe treiem lanhau a phrydferthu siop esgyrn a charpiau drwy ei thaenellu â dwfr rhosynnau. Yn hytrach, yr un peth sydd arnom oll ei eisiau yw, nid ychydig mwy o ddyhead annelwig ac aneffeithiol tuag i fyny, ond rhyw allu gwahanol i ni ein hunain a dyrr i lawr i'n bywyd mewnol i lanhau ffynonellau yr hunandwyll a'r fyfiaeth sydd yno."
I berthynas fwy effeithiol â Gallu felly y ducpwyd fi yn fy nghyfnod diweddaraf: deuthum heibio i'r berthynas â'r Cyfanfod amhersonol a gyfryngir gan y dychymyg a'r deall, i berthynas bersonol ddyfnach â Duw a gyfryngir gan yr ewyllys a'r galon. Yr oedd y flaenaf yn codi dyn yn ddychmygol allan ohono'i hun, a byd amser a lle, ond nid oedd a fynnai lawer â" barnu meddyliau a bwriadau y galon." Eithr yn awr, oherwydd fy ymgyflwyniad i Grist fel fy Arglwydd, a'r ymdrech i sylweddoli'r delfryd Cristnogol o gymeriad, deuthum i weld bod eisiau glanhau ffynonellau yn gystal â rhediadau bywyd. Daeth y berthynas bersonol aruchel â Duw yng Nghrist yn brif ryfeddod bodolaeth ac yn brif ysgogydd dyhead a gweithrediad. Nid rhyfedd, felly, iddo fynd yn ganolbwnc fy mhregethau.
Y mae i'r bydysawd, yn ddiau, le pwysig a hanfodol mewn crefydd—fel y mae i ddychymyg a deall le cyffelyb yn ein natur—am ei fod yn ddatguddiad rhannol o Dduw. Y mae'r Beibl yn ei bwysleisio, megis pan ddywaid fod y nefoedd "yn datgan gogoniant Duw a'r ffurfafen yn mynegi gwaith ei ddwylaw Ef," a llawer o ddatganiadau cyffelyb. Ffurfia'r apêl at y dychymyg ran werthfawr hefyd o'r gwasanaeth crefyddol, yn neilltuol y rhannau cerddorol—a llawer o bregethau yn wir. Yr hyn sydd o bwys yw cadw'r rhan hon yn ei lle iswasanaethgar o helpu'r addolwr i blygu ei ewyllys i Dduw. Y mae tuedd gyson i'w wneud yn brif beth—y mae gymaint yn rhwyddach na dod ar yr allor. Enghraifft nodedig o hyn oedd y "moliannu" yng nghymanfaoedd Cymru nad arweiniai i santeiddrwydd o gwbl, am y tybiai y cnawd fod amcan crefydd wedi ei gyrraedd. Mynn rhai beirdd, llenorion, gwyddonwyr, etc., gyfyngu eu crefydd i'r diriogaeth hon yn unig. Ai Carlyle allan i addoli "in the temple of immensity," chwedl yntau, a cholli gwynfyd bendigaid y gwir gysegr, er na wyddai ef mo hynny—ac ni fynnai dreio. Yr hyn sydd yn syn yw bod y "doethion a'r deallus" yn ddall i ddyfnion bethau Duw, a lluoedd O "rai bychain" yn eu gweld a'u gwerthfawrogi. Y gwir, y mae'n debyg, yw, bod y porth yn rhy gyfyng i'w mawredd hwy—y sydd yn fawredd yn unig o safbwynt yr oes bresennol. Buasai Carlyle yn fwy dyn pe cydymffurfiasai â safonau ymarferol crefydd ei fam a'i dad, yn un rhwyddach cydfyw ag ef, ac yn llai o edmygydd o Frederic Fawr a gwroniaid grym.
Ar y llaw arall, y mae rhai megis Karl Barth a'i ysgol yn dibrisio tystiolaeth y bydysawd i Dduw, a gwerthfawredd ei ddatguddiad ohono, yn ormodol. Ar sail fy mhrofiad personol, yn ychwanegol at ystyriaethau ysgrythurol ac athronyddol, ni allaf lai na chysylltu gwerth amhrisiadwy â'r datguddiad dechreuol hwn. Y mae'n wir na allwn resymu i fyny ohono i'r datguddiad o ras Duw yng Nghrist, ond nid yw hwnnw yn ei gondemnio ond fel cystadleuydd am y gwerth uchaf, a'i ogoneddu yn ei le. Nid wyf am drafod y mater yn llawn yn y fan hon: dichon fod digon wedi ei ddweud i ddangos perthynas y datguddiadau hyn â'i gilydd fel y mae yn bod yn fy meddwl i ar sail profiad diriaethol.
Ond beth yw perthynas y cyfnodau hyn eto â'r profiad arbennig a gefais yng nghyrddau Drummond? Yr wyf wedi crybwyll eisoes i'r profiad hwnnw o Grist glirio fy ngolygon i weld Duw yn Natur yn fwy clir a llawn, ond beth yw ei berthynas â'r profiad o Grist a gefais ugain mlynedd yn ddiweddarach? Buasai'r tadau'n dweud fy mod wedi cyfeiliorni oddi wrth y ffydd wedi gwrthgilio—ac mai fy nwyn yn ôl a gefais o'm crwydriadau. Ond byddai diwinydd mwy eangfrydig yn esbonio bod arweddau o'r bydysawd heb eu datguddio i mi, a chynheddfau yn fy natur innau heb eu datblygu drwy eu dwyn i gyswllt bywydol â hwy, a bod eisiau fy nghadw dan ddisgyblaeth bellach i ddwyn hyn oddi amgylch. Ond a oedd eisiau disgyblaeth mor faith? Y mae yn beth tra sicr, er meithed yr amser rhyngddynt, fod y ddau brofiad yn perthyn i'w gilydd, am eu bod fel ei gilydd yn gysylltiedig â pherthynas bersonol â Christ. Yr wyf wedi sylwi eisoes i Bushnell fod am ugain mlynedd yn pregethu cyfiawnder y Deyrnas, ac yna iddo ddyfod i'r goleuni mwy yr hiraethai amdano fel cyflawniad o addewid y cyfnod cyntaf, heb unrhyw wrthgiliad oddi wrth wirionedd hwnnw. Y mae ymchwiliadau meddylegwyr diweddarach yn dangos nid yn unig fod graddau (stages) yn y bywyd ysbrydol, ond y gallant fod ymhell oddi wrth ei gilydd. Fe ddywaid Starbuck, er enghraifft, ar sail ei ymchwiliadau gofalus ef, os na chaiff y credadun "fedydd " yr Ysbryd Glân o fewn tri mis wedi credu yng Nghrist, y gall fod ugain mlynedd hebddo.
Cydnebydd y Testament Newydd raddau felly, epistolau Paul yn neilltuol. Yr oedd yr Effesiaid, er enghraifft, wedi derbyn "sêl" yr Ysbryd, neu "ernes" yr Ysbryd, ond gweddïa Paul ar eu rhan, ar iddynt gael eu cadarnhau mewn nerth drwy weithrediad dyfnach yr Ysbryd yn y dyn oddi mewn, fel y delai Crist i drigo drwy ffydd yn eu calonnau, ac iddynt hwythau, felly, gael eu "gwreiddio" a'u "seilio" mewn cariad, h.y., i'w gwaelod hunanol gael ei gyfnewid a rhoddi iddynt brofiad o gariad Crist y sydd uwchlaw gwybodaeth y pen.
Eithr nid oes gyfeiriad at amser fel elfen i'w chyfrif o gwbl. Yn unig, gwyddom fod blynyddoedd wedi pasio rhwng ymweliad yr Apostol ag Effesus ac ysgrifennu'r epistol. Efallai nad yw'r ymddangosion ar wyneb amser o gymaint pwys pan yw gwaith y greadigaeth newydd yn mynd ymlaen yn y dwfn, neu ynteu o bwys yn unig fel mynegiadau i ddynion o gynnydd hwnnw. Byddai hyn yn gyson â'r hyn a ddywaid yr Athro William James, sef bod y bywyd ysbrydol ar ôl ei gychwyn yn tyfu'n isymwybodol, fel coral reef dan y dŵr, ac yna y daw y dydd pryd yr ymddengys uwchlaw arwynebedd y dŵr, h.y., pan gyfyd i'r ymwybod.
Yr hyn sydd yn sicr yw bod y cyfnod olaf yn gwblhad o'r blaenaf (er ei fod eto heb ei gwblhau), yn fwy uchel—wrthrychol am ei fod yn fwy dwfn—oddrychol ac ar yr un pryd yn fwy llydan ac amlochrog.
Yn un peth, dug y profiadau a ddisgrifiwyd yn y bennod flaenorol fi i sylweddoliad o'r Ysbryd Glân fel gallu diriaethol yn cynhyrchu effeithiau teimladwy (tangible) yn fy natur, a oedd yn wahanol nid yn unig i'r athrawiaeth amdano mewn llyfrau diwinyddol a phulpudau (pan gyfeirid ato o gwbl), ond hefyd i'r gwerthfawrogiad mwy profiadol a gawswn o Grist. Nid llawer o le a gaffai'r Ysbryd Glân yn anerchiadau Drummond—o leiaf, ei bwyslais cyson ar bresenoldeb personol Crist a wnaeth yr argraff dyfnaf arnaf i ac a arhosodd gyda mi drwy'r blynyddoedd dilynol—er nad, efallai, mor llywodraethol ag y dylasai fod. Yr wyf yn cofio bod dysgeidiaeth y pregethwyr a ddaeth i'r dref oddi wrth Mr. Reader Harris, ynghylch angenrheidrwydd help yr Ysbryd, yn fy nharo'n newydd a dieithr. Y cwbl a wnaeth, serch hynny, oedd agor fy meddwl i bosibilrwydd profiad na feddwn i ar y pryd, a'm paratoi felly, i ryw fesur, ar ei gyfair pan ddaeth. "I ryw fesur" yn unig, gan fod yn fy meddwl y rhagfarn yn erbyn profiad o'r fath a gynhyrchir gan ymgyflwyniad cyson i astudiaeth haniaethol. 'Rwy'n cofio dweud mewn seiat ar y pryd bod Ysbryd Duw yn gyffredinol a chyson weithgar, yn annibynnol ar le am ei fod ym mhob lle, ac yn yr un modd uwchlaw amserau a phrydiau. Yr oedd hyn yn eithaf gwir, ond nid oedd yn un rheswm yn erbyn ei weithgarwch arbennig mewn lleoedd ac ar brydiau, a chaniatau ei fod yn allu personol. Fodd bynnag, fe'm ducpwyd i brofiad o allu felly nad oedd wedi ymddangos yn y cyfnod cyntaf, ac a oedd yn fwy diriaethol nag unrhyw werthfawrogiad o Grist a feddwn y pryd hwnnw, ac yn wahanol i unrhyw nerth ewyllys goddrychol y cefais i brofiad ohono. Ni allwn lai na theimlo fy mod mewn cyswllt ag order arall o nerthoedd; llanwyd yr ymadrodd "nerthoedd yr oes (byd) a ddaw" ag ystyr newydd imi, ac aeth y byd a'r bywyd ysbrydol lawer yn fwy rial ac agos.
Mewn cyswllt â hyn daeth perthynas fywydol organig Crist â'r credadun yn wirionedd byw i mi. Yr oedd hyn eto yn ychwanegiad pwysig at gynnwys y ffydd a nodweddai y cyfnod cyntaf, gan nad âi Drummond ymhellach na'n cymell i sylweddoli bod Crist wrth law "gyda ni" bob amser. Diau y gwyddai am y berthynas ddyfnach nad oeddem ni fyfyrwyr eto'n barod iddi. Nid yn y ffurf o athrawiaeth haniaethol, na chasgliad rhesymegol y cymerth y gwirionedd ei le yn fy meddwl, ond fel canfyddiad neu fewn—welediad uniongyrchol. Yr oedd yn y Testament Newydd, bid siŵr, yn ysgrifeniadau Ioan a Paul yn arbennig, ond yn awr y cerddodd allan o lyfr i ddeffro fy ngwerthfawrogiad ohono. Gallaf fentro dweud ei fod ar ôl hyn yn fy mhrofiad, os yw sylweddoli peth yn fyw iawn yn ei wneuthur yn rhan o brofiad. Ond y mae'n dra sicr nad oedd yn eiddo imi i'r graddau y credwn ei fod ar y cyntaf, gan fy mod wrth y gwaith o geisio'i sylweddoli'n fwy o hyd. Ni allaf fynd ymhellach na thystiolaeth un o ddychweledigion y Parch. W. J. Smart yn ei lyfr Triumphs of His Grace: "I gave what I knew of myself to what I knew of Christ "—tystiolaeth sy'n awgrymu bod pethau ynom ni ein hunain na wyddem amdanynt pan gredasom yng Nghrist, ac uchterau ynddo Yntau yn gwneud gofynion pellach arnom nas datguddiwyd inni ar y pryd.
Yng nghyfnod fy athronyddu, nid wyf yn cofio i mi gael fy mlino gan "galon ddrwg anghrediniaeth yn ymado oddi wrth "Dduw Byw"—yr oedd hyd yn oed Green yn synied am Dduw fel "Hunan—ymwybyddiaeth dragwyddol" yn ei hatgynhyrchu ei hun mewn dyn. Ond yr oedd tuedd i bwysleisio'r ochr ddynol ym mhob gwybodaeth, a'i gwneuthur yn fwy o ddarganfyddiad na datguddiad, ac i gyfyngu Duw i weithgarwch cyffredinol yn neddfau Natur ac Ysbryd a'i amddifadu o allu i ddarostwng y deddfau hynny i amcanion neilltuol deallus a daionus, a gorchfygu amgylchiadau a rhwystrau—yr hyn a wna dyn hyd yn oed yn ei fyd ac a'i praw ei hun yn berson drwy wneud hynny. Daeth yr ochr yma i natur Duw, a aethai dan gwmwl, yn ôl i eglurder, a gwelais ei fod yn ddigon Byw o hyd i ddal awenau'r bydysawd a darostwng balchder dyn, ac yn ddigon Mawr i deimlo diddordeb mewn unigolion ac i'w hachub a'u harwain. Ar yr un pryd cefais olwg lawnach ar Ei gariad, ac ar Aberth Crist—eithr nid fy amcan yn awr yw ysgrifennu fy nghredo lawn, pe gallwn: credaf fod digon wedi ei ddweud i ddangos bod y cyfnod olaf, tra'n parhau ar linell y blaenaf, yn radd (stage) bellach ohono, ac fel y cyfryw yn fwy cyflawn a chyfoethog.