Fy Nuw, fy Nhad, fy Iesu

O! Cenwch fawl i'r Arglwydd Fy Nuw, fy Nhad, fy Iesu

gan William Williams, Pantycelyn

Nef a daear, tir a môr
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

31[1] Mawl am Iechydwriaeth.
76. 76. D. .

1 FY Nuw, fy Nhad, fy Iesu,
Boed clod i'th enw byth;
Boed dynion yn dy foli
Fel rhif y bore wlith;
O! na bai gwellt y ddaear
Oll yn delynau aur,
I ganu i'r Hwn a anwyd
Ym Methlem gynt o Fair.

2 O! Iesu, pwy all beidio
 'th ganmol ddydd a nos?
A phwy all beidio â chofio
Dy farwol ddwyfol loes?
A phwy all beidio â chanu
Am iechydwriaeth rad,
Ag sydd yn teimlo gronyn
O rinwedd pur dy waed?

3 O! Arglwydd, rho i mi dafod
Na thawo ddydd na nos,
Ond dweud wrth bob creadur
Am rinwedd gwaed y groes;
Na ddelo gair o'm genau,
Yn ddirgel nac ar goedd,
Ond am fod Iesu annwyl
Yn wastad wrth fy modd.

William Williams, Pantycelyn
(O Theomemphis)


Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 31, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930