O! Cenwch fawl i'r Arglwydd
← Moliannwn Di, O! Arglwydd | O! Cenwch fawl i'r Arglwydd gan Robert Jones, Llanllyfni |
Fy Nuw, fy Nhad, fy Iesu → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
30[1] Mawl i'r Arglwydd
76. 76. D.
O! CENWCH fawl i'r Arglwydd,
Y ddaear fawr i gyd,
Ac am ei iechydwriaeth
Moliennwch Ef o hyd;
Mynegwch ei ogoniant—
Tra dyrchafedig yw;
Mae'n ben goruwch y duwiau,
Mae'n Arglwydd dynol-ryw.
2 Rhowch iddo aberth moliant,
Ymgrymwch ger ei fron,
Yn brydferth mewn sancteiddrwydd
Moliennwch Ef yn llon;
Ac ofned pob creadur
Yr Hwn sy'n dal y byd;
Ymlawenhaed y nefoedd
A'r ddaear ynddo 'nghyd.
Robert Jones, Llanllyfni
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 30, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930