Fy enaid, at dy Dduw
← Mewn trallod, at bwy'r af | Fy enaid, at dy Dduw gan William Williams, Pantycelyn |
I Fyny at fy Nuw → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
63[1] Nawdd y Dwyfol Waed.
66.66.88.
1.FY enaid, at dy Dduw,
Fel gwrthrych mawr dy gred,
Trwy gystudd o bob rhyw,
A phob temtasiwn, rhed;
Caf ganddo Ef gysuron gwir,
Fwy nag ar foroedd nac ar dir.
2.O! na allwn roddi 'mhwys
Ar dy ardderchog law,
A gado i gystudd ddod.
Oddi yma ac oddi draw;
A byw dan nawdd y dwyfol waed
Yng ngolwg hyfryd dŷ fy Nhad.
3.Mi fyddaf lawen iawn,
A'm gofid dan fy nhraed,
O fore hyd brynhawn,
Dan adain gwir fwynhad;
Nid oes dim arall is y nef
A ddaw â'm henaid tua thref.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 63, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930