Mewn trallod, at bwy'r af

Mae Duw yn llond pob lle Mewn trallod, at bwy'r af

gan David Jones, Treborth

Fy enaid, at dy Dduw
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

62[1] "Nesáu at Dduw sy dda i mi."
66. 66. 88.

1.MEWN trallod, at bwy'r af,
Ar ddiwrnod tywyll du?
Mewn dyfnder, beth a wnaf,
A'r tonnau o'm dau tu?
O! fyd, yn awr beth elli di?
"Nesáu at Dduw sy dda i mi."

2.Anwadal hynod yw
Gwrthrychau gorau'r byd;
Ei gysur o bob rhyw,
Siomedig yw i gyd;
Rhag twyll ei wên, a swyn ei fri,
"Nesáu at Dduw sy dda i mi."

David Jones, Treborth

Ffynhonnell golygu

  1. Emyn rhif 62, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930