Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Afan Ferddig
← Afan Buallt | Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I gan Josiah Thomas Jones |
Afaon mab Taliesin → |
AFAN FERDDIG, oedd Fardd Cadwallon ab Cadfan, brenin y Brythoniaid, yr hwn a flodeuai yn y seithfed Ganrif. Nid oes dim yn aros o'i weithiau. Cofnodir ef yn y Trioedd fel un o'r "Gwaywruddion feirdd," o nodwedd ryfelgar, yn groes i egwyddorion barddoniaeth. Mewn un Trioedd cysylltir ef ag Aronan a Dygynnelw, bardd Owain ab Urien; mewn un arall â Tristfardd, bardd Urien Rheged a Dygynnelw. (Myv. Arch. ii. 4, 64.)