Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Afaon mab Taliesin
← Afan Buallt | Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I gan Josiah Thomas Jones |
Afarwy → |
AFAON, MAB TALIESIN. Canmolir ef yn y Trioedd fel bardd, yr hwn a gymerodd arfau er ainddiffyn ei wlad, ac a hynododd ei hunan o dan lywyddiaeth Cadwallawn ab Cadfan. Yn un Trioedd gelwir ef yn un o'r "Tritharw unben;" y ddau ereill oeddynt Cynhafal ac Elmur. Mewn rhai ereill, darlunir ef gyda Gwallawg ab Lleanawg, a Selyf ab Cyran Gorwyn fel y rhyfelwyr y rhai a barhasant i ladd ar eu beddau er dial eu camweddau. Trioedd arall a gofnoda ei farwolaeth gan Llawgad Trwm Bargawd, fel un o'r "Tair anfad Gyflafan" Ynys Prydain. (Myv. Arch. ii. 4, 9, 13, 14, 15, 69.) Cofnodir dywediad o'i eiddo yn yr englynion clywed. (Myv. Arch. i. 173.)-
"A glywesti a gant Afaon
Fab Taliesin gerdd gyfion?
Ni chel grudd gystudd calon."