Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Amphibalus
← Amlawdd Wledig | Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I gan Josiah Thomas Jones |
Amwn Ddu → |
AMPHIBALUS, y gwr enwog hwn, fel y dywed Giraldus Cambrensis a Ranulphuo Cestrensis, oedd enedigol o Gaerlleon, sir Fynwy, y pryd hwnw oedd brif ddinas Cymru, lle y ganwyd ef, yn y drydedd ganrif; ereill a haerant mai mynach ydoedd, ac yn dal swydd yn eglwys gadeiriol y ddinas hono. Modd bynag, y mae yn sicr iddo fod yn offerynol yn nhroedigaeth Alban, gan yr hwn y cafodd ei ddyogelu yn St. Alban. Pan anfonodd llywodraethwr Rhufain filwyr i'w ddal, gwisgodd Alban ei wisg, ac ymddangosodd o flaen yr ynad yn ei le ef, ac felly rhoddodd gyfle i Amphibalus ffoi. Ar ol ei ddiangfa, efe a ddychwelodd i Gaerlleon, lle y pregethodd gyda llwyddiant rhyfeddol, ac y trodd rifedi lawer i'r ffydd Gristionogol; a dywedir, o herwydd dychweliad cynifer ar amser dienyddiad Alban, i oddeutu mil o wyr St. Alban deithio i Gymru, lle y cawsant oll eu bedyddio gan Amphibalus. Cynddeiriogodd hyn y rhan baganaidd o'r trigolion i'r fath raddau fel y cymerasant arfau, ac a'u dilynasant i Gymru, lle y syrthiasant arnynt, gan eu dryllio yn ddarnau. Amphibolus ei hun a ddygwyd ymaith ganddynt yn gaeth, ac a ddyoddefodd ferthyrdod yn Rudburn, tair milltir o St. Alban, lle y llabyddiwyd ef a cheryg i farwolaeth.