Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Amwn Ddu
← Amphibalus | Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I gan Josiah Thomas Jones |
Anarawd → |
AMWN (DDU), sant, a fu byw yn y rhan gyntaf o'r chweched ganrif. Yr oedd yn fab i Emyr Llydaw, ac yn ben llywodraethwr tiriogaeth a elwid Graweg yn Armorica. Efe a ddaeth drosodd i Gymru, lle y sefydlodd, a phriododd Anna, merch Meurig, tywysog Morganwg, o'r hon y cafodd ddau fab, Samson a Tathan, y rhai oeddynt enwog o ran eu daioni. Dywedir iddo fwynhau cyfeillgarwch Illtyd, o sefydliad yr hwn yn Llanilltyd y daeth yn aelod. Preswyliai ar ynys fechan yn agos i'r lle, hyd oni symudodd i anialdir ar lanau Hafren, lle y treuliodd weddill ei oes. Ymddengys i Anna adeiladu eglwys yn y lle, yr hon a gysegrwyd iddi gan Samson. Claddwyd ef yn Llanilltyd Fawr. (Rees's Welsh Saints, p. 219.)