Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Arthur, Parch D
← Arthur, Gruffydd Ab | Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I gan Josiah Thomas Jones |
Arthur Frenin → |
ARTHUR, PARCH. D., oedd weinidog y Bedyddwyr yn Llanfairmuallt. Efe a ddechreuodd bregethu yn Mhantycelyn, sir Frycheiniog, a chafodd ei ordeinio yn Llanfairmuallt, yn 1830, yn gydweinidog a'r Parch. Thomas Daniel. Darfu iddynt gyd-lafurio yn y weinidogaeth hyd y flwyddyn 1831 neu 1832, pryd y gadawodd y blaenaf, ac yr aeth drosodd America. Ond parhaodd Mr. D. Arthur i bregethu yma ddau Sabbath yn y mis hyd y flwyddyn 1835, pryd y cafodd Mr. Morris Edwards ei sefydlu yn fugail ar yr eglwys; a pharhaodd Mr. Arthur i bregethu yn achlysurol yno wedi hyny tra y gallodd. Yr oedd hefyd yn cydlafurio a Mr. James Davies, Pantycelyn, ac yn gweinyddu yr ordinhadau i'r eglwys ieuanc yn Llanarch-cawr, Dyffryn Claerwen, Brycheiniog, hyd galangauaf 1837.