Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Asclepiodotus

Asaph Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I

gan Josiah Thomas Jones

Aser

ASCLEPIODOTUS, iarll Cornwal, a 74ain brenin Prydain, yn ol Brut Cymreig Tysilio. Dyrchafwyd ef i'r orsedd gan y Brythoniaid, y rhai a dorasant allan yn wrthwynebus, yn erbyn Alectus, tua'r flwyddyn O.C. 302, o dan ei lywyddiaeth aethant i fyny i Lundain. Alectus ar y pryd y dynesasant at y ddinas oedd yn aberthu i'r duwiau; ar hyn efe a dorodd i fyny y ddefod, gan fyned allan i'w gwrthwynebu. Ar ol ymosodiad creulon, gyrwyd ei fyddinoedd yn eu holau, ac efe ei hun, yn nghyd a miloedd lawer, a laddwyd. Livius Gallus, mewn canlyniad, a gauodd y pyrth gan ymdrechu achub y lle; ond Asclepiodotus a'r Brythoniaid a'u hamgauasant, ac anfonasant adref am fwy o filwyr; hwy a'u cymerasant drwy ruthr, pan gafodd yr holl Rhufeiniaid eu rhoddi i'r cleddyf. Drwy yr amgylchiad hwn, cafodd Asclepiodotus ei sicrhau yn y llywodraeth, ac yr oedd wedi teyrnasu deng mlynedd pan gododd Coel Coedelog, iarll Caerloyw, i fyny mewn arfau i'w erbyn, ac a'i lladdodd mewn brwydr.