Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Baxter, William
← Barnes, Edward | Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I gan Josiah Thomas Jones |
Bayly, Lewis, D.D → |
BAXTER, WILLIAM, oedd ysgrifenydd ieithyddol enwog, a nai ac etifedd yr anghydffurfiwr a'r duwinydd enwog Richard Baxter. Ganwyd ef yn Llanllugan (ty tad ei fam), sir Drefaldwyn, yn 1650, o rieni parchus, er nad oedd eu hamgylchiadau ond isel. Esgeuluswyd ei addysg foreuol yn fawr; a phan aeth gyntaf i'r ysgol, yn Harrow, y pryd hwnw yn ddeunaw mlwydd oed, nid oedd yn gwybod llythyren mewn llyfr, ac nid oedd yn deall gair o un iaith ond Cymraeg, fel y tystiai efe ei hun. Modd bynag, efe a brynodd ac a ddefnyddiodd ei amser mor dda, fel y daeth yn wr o wybodaeth fawr a helaeth. Ei athrylith a'i harweiniai yn benaf i astudio ieithyddiaeth a hynafiaethau. Ar y cyfryw destunau yr ysgrifenodd amryw lyfrau; y cyntaf a gyhoeddodd oedd yn 1679, sef ieithadur a alwai, "De Analogia, seu Ante Latinæ Linguæ Comentarialus." 12 plyg; Llundain. Cynwysa hwn lawer o syniadau neillduol a gwreiddiol o'i eiddo ei hun. Yn 1695, ymddangosodd ei argraffiad newydd a diwygiedig o Anacreon, gyda nodiadau. Yr hwn a ail argraffwyd yn 1710, gydag ychwanegiadau a diwygiadau helaeth. Yn 1701, cyhoeddodd argraffiad o Horace; yr hwn a ail argraffwyd drachefn, gydag ychwanegiadau, yn 1725. Yn 1719, ymddangosodd ei Eiriadur cywrain a dysgedig o hynafiaethau Prydeinig, dan yr enw "Glossarium Antiquitatum Britanicarum, sive syllabus Etymologicus Antiquitatum veteris Britanniæ atquæ Hiberniæ temporibus Romanorum." Ei waith nesaf oedd Eirlyfr o hynafiaethau Rhufeinaidd; yr hwn, modd bynag, na chyhoeddwyd hyd ar ol ei farwolaeth, yn 1726, gan y Parch. Moses Williams, dan yr enw, "Reliquise Baxterianæ, sive Willielmi Baxteri opera postuma." Cafodd hwn ei ail argraffu yn 1731, gyda'r enw newydd o "Glossarium Antiquitatum Romanarum." Nid yw yn cyraedd yn mhellach na'r llythyren A; ac y mae'r rhan fwyaf o'i benodau yn draethodau hirion a dysgedig. Yr oedd efe yn feirniadydd galluog yn y Gymraeg, Gwyddelaeg, ieithoedd y gogledd a'r dwyrain, yn gystal Lladin a'r Groeg. Parhai i ohebu a'r dynion dysgedicaf yn ei oes, yn neillduol a'i gydwladwr, Edward Llwyd; ac y mae rhai o'i lythyrau wedi eu cyhoeddi ar ddiwedd y "Glossarium Antiquitatum Romanarum." Yr oedd Baxter yn rhwym y rhan fwyaf o'i oes mewn dysgu ieuenctyd. Yr oedd yn cadw bwrdd-ysgol am rai blynyddau yn Totenham, yn Middlesex. Oddiyno, dewiswyd ef i fod yn feistr Ysgol y Sidan Weithwyr, yn Llundain. Yno y parhaodd dros ugain mlynedd, a rhoddodd ei ofal i fyny ychydig cyn ei farwolaeth; yr hyn a gymerodd le yn Mai, 1723, yn 73 mlwydd oed. Gadawodd deulu o ddau fab a thair merch.