Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Belyn o Leyn
← Belyn, mab Cynfelyn | Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I gan Josiah Thomas Jones |
Benlli Gawr → |
BELYN,o Leyn, a gofnodir yn y Trioedd (Myv. Arch ii. 16, 62) fel penaeth un o'r tri Teuluoedd hueilogion ynys Prydain." Gelwid hwy felly oddiwrth rwymiad o honynt eu hunain yn nghyd â llyfetheiriau eu ceffylau, i gynhorthwyo ymosodiad Edwin ar Fryn Cenau, a elwid wedi hyny Bryn Edwin, yn Rhos, tua'r flwyddyn 620. Y ddau lwyth ereill oedd Caswallon Law Hir, a Rhiwallon ab Urien. Fel gwobr am eu gwrolder, caniateid i'r llwythau hyn wisgo rhwymau aur; ac yr oedd ganddynt awdurdod goruchel yn eu tiriogaethau eu hunain, yn ddarostyngedig yn unig i raith gwlad a chenedl.