Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Arwystli Gloff
← Arwystli (Hugh) | Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870 gan Isaac Foulkes |
Arwystli Hen → |
ARWYSTLI GLOFF. Mab ydoedd i Seithenyn, yr hwn a gyfenwir Seithenyn Feddw, a brodyr iddo ydoedd Gwynodl, Merin neu Merini, Senefyr, Gwyndeg, Llibio, Tudur, Ynyr, Tudglwyd, Tudno, a Tyneio. Yr oedd ei frodyr oll yn perthyn i Fangor Iscoed, yr hon oedd hynod o enwog o dan arolygiad Dunawd tua'r pryd hwnw. Ond aelod oedd Arwystli o Fangor Enlli. Dywedir iddo sefydlu Eglwys, ond ni sonir n mha le. Quid ar ei enw ef y galwyd rhan o Faldwyn yn Arwystlif Yr oedd yn ei flodau yn nghanol y chweched cant.