Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Arwystli Hen

Arwystli Gloff Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870

gan Isaac Foulkes

Asaf

ARWYSTLI HEN. "Arwystli Hen, gwr o'r Eidal" medd Achau'r Saint, a ddaeth gyda Bran ab Llyr i Ynys Prydain, i ddysgu'r ffydd yng Nghrist." Gelwir ef mewn lle arall yn "Beriglor," hyny ydyw athraw Bran. Bernir iddo, gan rai, ddod i'r ynys hon hefo Bran, pan ddaeth ef o Rufain, ar ol bod yno yn nwystl ei fab dewrfrydig Caradog. Y mae cyd—darawiad hynod yn nhystiolaethau damweiniol gwahanol ysgrifenwyr o barth y faith a grybwyllir yn yr Achau. Paul, pan yn ysgrifenu ei Epistol at y Rhufeiniaid, a ddywed, "Anherchwel y rhai sydd o dylwyth Aristobulus." Yn ol y Merthyrolaeth Groegaidd, yr hwn a ddyfynir gan yr archesgob Usher, "Cysegrwyd neu benodwyd Aristobulus gan St. Paul yn esgob i'r Brutaniaid." Dywed yr hanesydd Cressy, ddarfod i Aristobulus, disgybl i St. Pedr a St Paul, gael ei ddanfon yn Apostol i'r Brutaniaid, ac mai efe oedd yr esgob cyntaf yn Mhrydain; iddo farw yn ynys Afallon, O.C. 99, ac mai ei wylmabsant oedd Mawrth 15fed." Heleca Esgob a ddywed fod Prydain yr enwog am ei llu Merthyri, ac yn benaf am Aristobulus, un o'r deuddeg a thriugain esgob a ddanfonwyd i Frydain; iddo gael ei ferthyru yn yr eilfed flwyddyn o deyrnasiad Nero," neu fe allai yn fwy cywir yn y ddeuddegfed. Tystia Dorotheus, hanesydd o'r trydydd cant, "fod Aristobulus yn un o'r deg a thringain disgybl a enwir gan St. Paul yn y Rhufeiniaid, wedi dysgu athrawiaeth iachawdwriaeth, a gweinyddu'r swydd o esgob yn Mhrydain." Dyna ddigon ond odid o gyfeiriadau at y ffaith mewn Law, sef bod un o'r enw Aristobulus wedi d'od drosodd o'r Eidal i'r wlad hon i ddysgu ein cyndadau ffydd Crist. Y mae'r crynhoad hwn o ffeithiau yn ein harwain at y pwnc dyrus o ddyfodiad yr Efengyl i'r wlad hon; ond er mor ddyddorol fyddai treiddio i'r cyfryw rhaid i ni ei adael gan ddim ond lled-grybwyll mai po mwyaf oll y chwilir ein hen gofianau gwladol ni, a'u cyferbynu hefo gwaith hen awdwyr o wledydd eraill, egluraf y gwelir mai nid breuddwydion disail mo'nynt, ac nad gwrachiaidd chwedlau gwneuthur ydynt. Cyfeillion arbenig Aristobulus oedd Cyndaf, Ilid, a Mawan, am ba rai y coffheir yn eu trefn. Gweddus feallai son paham y gelwir y gwr yn Arwystl neu yn Arwystli. Diau nad peth annaturiol ydoedd cyflunio o'r gair cyssefin yr enw Cymreig: yn wir y mae genym esiamplau ddigon a ddangosant lawn cymaint o drawsffurfio, os nad mwy, na'r un dan sylw, pe nad enwem ond Paulinus yn Pawl. Ei wylmabsant fel y crybwyllwyd ydyw y 15fed o Fawrth.

Nodiadau

golygu