Glân geriwbiaid a seraffiaid
← Ynot, Arglwydd, gorfoleddwn | Glân geriwbiaid a seraffiaid gan Richard Mant wedi'i gyfieithu gan Owen Griffith Owen (Alafon) |
O! Arglwydd Iôr, boed clod i Ti → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
40[1] Sanctaidd Iôr.
87. 87. D.
1. Glân geriwbiaid a seraffiaid,
Fyrdd o gylch yr orsedd fry,
Mewn olynol seiniau dibaid,
Canant fawl eu Harglwydd cu:
"Llawn yw'r nefoedd o'th ogoniant,
Llawn yw'r ddaear, dir a môr;
Rhodder iti fythol foliant,
Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd Iôr!"
2. Fyth y nef a chwydda'r moliant;
Uwch yr etyb daear fyth –
"Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd!" meddent,
"Dduw y lluoedd, Nêr di-lyth!"
"Llawn yw'r nefoedd o'th ogoniant,
Llawn yw'r ddaear, dir a môr;
Rhodder iti fythol foliant,
Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd Iôr!"
3. Gyda'r seraff gôr i fyny,
Gyda'r Eglwys lân i lawr,
Uno wnawn fel hyn i ganu
Anthem clod ein Harglwydd mawr:
"Llawn yw'r nefoedd o'th ogoniant,
Llawn yw'r ddaear, dir a môr;
Rhodder iti fythol foliant,
Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd Iôr!"
Richard Mant
Cyf Owen Griffith Owen (Alafon)
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 40, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930