Ynot, Arglwydd, gorfoleddwn

Molwch Arglwydd nef y nefoedd Ynot, Arglwydd, gorfoleddwn

gan John James (J.J.) Williams

Glân geriwbiaid a seraffiaid
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

39[1] Hyder a Gorfoledd yn Nuw.
87. 87. 77.

1. YNOT, Arglwydd, gorfoleddwn,
Yn dy gariad llawenhawn,
Cariad erys fyth heb ballu,
A'i ffynhonnau fyth yn llawn;
Frenin nef a daear lawr,
Molwn byth dy enw mawr.

2. Er i Ti reoli bydoedd,
Ym mhob storom lem a ddaw
Cedwi'r weddw dan dy gysgod
A'r amddifad yn dy law:

Frenin nef a daear lawr,
Molwn byth dy enw mawr.

3. Os yw’r bryniau yn dy glorian,
Os dy ddeddf sydd ar y môr,
Ti wrandewi’n nydd y daran
Lef pechadur wrth dy ddôr:
Frenin nef a daear lawr,
molwn byth dy enw mawr.

John James (J.J.) Williams

Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 39, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930