Molwch Arglwydd nef y nefoedd
← Engyl nef o gylch yr orsedd | Molwch Arglwydd nef y nefoedd gan Morris Williams (Nicander) |
Ynot, Arglwydd, gorfoleddwn → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
38[1] Molwch Enw'r Iôn.
87. 87. 47
1. MOLWCH Arglwydd nef y nefoedd,
Holl genhedloedd daear las,
Holl dylwythau'r byd a'r bobloedd
Cenwch glod ei ryfedd ras:
Haleliwia,
Molwch, molwch enw'r Iôn.
2. Mawr yw serch ei gariad atom,
Mawr ei ryfedd ras di-lyth,
Ei gyfamod a'i wirionedd
Sydd heb ball yn para byth :
Haleliwia,
Molwch, molwch enw'r Iôn.
Morris Williams (Nicander)
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 38Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930