Gwaith Ann Griffiths/Llythyr 6

Llythyr 5 Gwaith Ann Griffiths

gan Ann Griffiths

Llythyr 7

GAREDIG FRAWD A THAD YN YR ARGLWYDD,—

Mi dderbyniais eich llythyr ddoe, a da iawn oedd genyf ei gael, gan obeithio y bydd y pethau gwerthfawr sydd ynddo o fendith imi. 'Bu dda iawn genyf am yr ysgrythur a sylwasoch erni yn llythyr fy mrawd.

Ond, í fynd ymlaen i adrodd gronyn o'm helynt presenol i chwi. Cryn demestlog yw hi arnaf erys tro mawr. Cael llawer iawn o siomedigaethau ynwyf fy hun yn barhaus. Ond y mae'n rhaid imi ddywedyd hyn,—fod pob treialon,—pob gwyntoedd o bob nattur, yn cydweithio fel hyn—sef fy nwyn i weled mwy o fy nhrienus gyflwr wrth nattur, a mwy o'r Arglwydd yn ei ddaioni a'i hanghyfnewidioldeb tuag attaf. Bum yn ddiweddar yn neillduol bell mewn putteindra ysprydol oddiwrth yr Arglwydd, ac etto yn dal i fynu yngwyneb gwinidogaeth fel un yn gwarchad gartref yn dda, ac yn aros yn y cymundeb. Ond er fy holl scil fe dorodd yr Arglwydd o'i ddaioni yn y geiriau hyn,—"Os wyf fi Dad, pa le y mae fy anrhydedd? Os wyf fi Feistr, pa le y mae fy ofn?" Diolch i Dduw byth am buls y nef i fynd a'r afiechyd i gerdded. Yr oedd fy ystymog mor wan fel nad allwn ymborthi ar drugaredd rad, yn yr olwg ar fy llwybr, ac wedi ymadael â Duw, ffynnon pob cysuron sylweddol, a chloddio i mi fy hun bydewau toredig. Y gair yma a'm cododd ronyn ar fy nhraed o'r newydd,—"Yr Arglwydd yw fy Mugail, ni bydd eisiau arnaf." Y fi yn myned ar gyrwydr, yndef yn Fugail; y fi yn analluog i ddychwelyd, yntef yn Arglwydd Hollalluog. O Graig ein hiechydwrieth, hollol ymddibenol arno ei hun mewn perthynas i achub pechadur. Garedig frawd, myfi a ddymunwn gael bod byth tan y driniaeth, bydded mor chwerw ag y bo.

Gair arall a fuo fendith neillduol imi yn ddiweddar wrth geisio dyweud wrth yr Arglwydd am yr amrywiol bethau oedd yn fy ngalw ar ei hol. Dyma'r gair,—"Trywch eich wyneb attaf fi, holl gyrau'r ddaear, fel y'ch achubir, canys myfi wyf Dduw, ac nid neb arall." Fel pe fae Duw yn dyweud,—"Mi a wn am bob galwad sydd arnat, a'i bod yn amrywiol, ond yr wyf inau yn galw. Nid yw byd ond byd, na chnawd ond cnawd, na diafol ond diafol.—"Myfi sydd Dduw, ac nid neb arall."

Y mae rhwymau arnaf i fod yn ddiolchgar am y Gair yn ei awdurdod anorchfygol. Mi a ddymunwn o'm calon roi'r clod i gyd i Dduw'r Gair, yn unig am fy nwyn a'mn dal hyd yma, a bod y rhan sy'n ol mewn parhaus gymundeb a Duw yn ei Fab, am nad allaf byth ogoneddu mwy, na chimmaint, arno na thrwy gredu a derbyn ei Fab. Help o'r nef i wneud hynny, nid o ran fy mhleser fy hun yn unig, ond o barch iddo.

Garedig frawd, nid oes nemawr yn chwaneg ar fy meddwl i ymhelaethu, ond cofiwch lawer am Sion trwy'r byd, ond yn neullduol eich mam yn y Bont, sydd â chysgodau'r hwyr bron a'i gorchuddio, a phenwyni yn ymdaenu drosti, ac mewn mesur bach yn gwybod hynny. Y gair yma sydd lawer ar fy meddwl i ac eraill hefyd wrth edrych ar ei drych llesg, anniben, digalon,—"Ai hon yw Naomi" Ymdrechwch lawer a'r Arglwydd mewn gweddi yn hachos, fel corph o dystion dros Dduw yn y byd, am fod Ei Enw mawr mewn mesur yn cael ei gyddio ganddi yn ein gwrthgiliadau.

Garedig frawd, mae'n dda iawn genyf glywed eich hanes mewn perthynas i'ch gwaith newydd.[1] Dwy ysgrythyr a fu ar fy meddwl ar y matter, un,—"Fel hyn y gwneir i'r gwr y mae'r brenhin yn mynu ei anrhydeddu;" a'r llall, —"Diau fod Eneiniog yr Arglwydd ger fy mron, ond nid edrych Duw fel yr edrych dyn, am hynny yr oedd yn rhaid cyrchu Dafydd."

Bellach mi ddibena, gan ddymuned arnoch anfon attaf gyda brys. Wyf eich anheilwng chwaer, sy'n cyflym redeg i'r byd a bery byth.

ANN THOMAS, Dolwar
  1. Yn 1802 y cafodd John Hughes ganiatad i bregethu. Oddiwrth hynny, y mae'n debyg, y cofiodd ddyddiad y llythyr,—Ebrill, 1802.