Gwaith Ceiriog/Alun Mabon (10)
← Alun Mabon (9) | Gwaith Ceiriog gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog) |
Alun Mabon (11) → |
X
Alaw,—Y Melinydd
Ond chaiff y gangen fedwen
Ddim gwywo'n goch ei lliw
Nes af i siarad eto
Yng ngwyneb Menna wiw.
Fa la, &c.
Mae gennyf dŷ fy hunan,
Heb ddegwm, rhent, na threth;
A phan eisteddaf ynddo,
'Rwy'n frenin ar bob peth.
Fa la, &c.
Mae gennyf barlwr bychan,
Ac aelwyd fechan lân;
A'm tegell i fy hunan
Sy'n canu wrth y tân.
Fa la, &c.
Mae gennyf gant o ddefaid
Yn pori ar y bryn,
A gallaf godi'm cyfrwy
Ar gefn fy ngheffyl gwyn.
Fa la, &c.
Mae gennyf ferlyn mynydd,
I fynd i weled Men;
Nad all neb ond fy hunan
Roi rheffyn yn ei ben.
Fa la, &c.
Mae'r ardd, a'r cae, a'r ffriddoedd,
A'r tŷ yn eiddo im';
Ond heb fy Menna anwyl
'Rwyf fel pe bawn heb ddim.
Fa la, &c.
Fe'i ceisiaf unwaith eto,
Ac os gwrthodir fi,
Tros fil o weithiau wedyn
Am Fenna ceisiaf fi.
Fa la, &c.