Gwaith Ceiriog/Alun Mabon (9)
← Alun Mabon (8) | Gwaith Ceiriog gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog) |
Alun Mabon (10) → |
IX
'R oedd gennyf fi gyfaill pur anwyl a hoff,
Yn fy nghyfarfod bob amser â gwên;
Ac wrtho mi ddwedais fy mod wedi rhoi
Fy neheulaw i Menna Rhên.
Ond ef pan ddeallodd yr hyn oedd yn bod,
Siaradodd â'r llances ei hun—
Efe oedd y locust ddisgynnodd ar ddail
Y fedwen a welais trwy f' hun.
Mae llawer ffordd i lofruddio dyn
Yn y byd llofruddiog hwn;
Os cwrddwch â lleidr yng ngwyll y nos,
Bydd angau ar ffroen ei wn;
Fe gymer eich arian ar ol eich lladd,
I'w logell losgedig ei hun,
Ac yna fe'ch tafl i ffos y clawdd,—
Dyna ffordd lleidr i fwrdro dyn.
Mae arall o falais yn dod gyda gwên,
I ro'i i ddyn ddiod yn hael,
Mae yntau'n cymeryd, ond bychan y gŵyr
Mai cwpan o wenwyn mae'n gael;
Mae un yn ymdrengu, a'r llall yn boddhau
Rhyw deimlad sydd ynddo fe'i hun—
Fe ddygodd y gwenwyn ryw amcan i ben,
Dyna ffordd llofrudd i fwrdro dyn.
Mae arall yn byw ac yn bod gyda chwi,
Fel cyfaill diffuant bob pryd,
Ac rywfodd i'ch mynwes yn gynnes yr a,
Nes cael eich cyfrinach i gyd.—
Ac yna mae'n myned i sibrwd ei serch
I galon un garech eich hun—
Yn ennill y llances garasech erioed;
Dyna ffordd cythraul i fwrdro dyn.